Isaac Carter

Oddi ar Wicipedia
Isaac Carter
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1741 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgohebydd gyda'i farn annibynnol, argraffydd, llyfrwerthwr Edit this on Wikidata

Argraffydd a chyhoeddwr llyfrau Cymreig yn hanner cyntaf y 18g oedd Isaac Carter (bu farw 1741). Fe'i cofir fel sefydlydd yr argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys amdano. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys ond ymddengys yn bur sicr ei fod yn frodor o dref Caerfyrddin. Sefydlodd wasg yn hen fwrdeistref Trefhedyn (Adpar) yn 1718. Cynnyrch cyntaf y wasg oedd dau bamffledyn, Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco gan Alban Thomas a Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau gan awdur anhysbys, a gyhoeddwyd yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin. Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn Adpar yn cynnwys Eglurhad o Gatechism Byrraf y Gymanfa (1719), Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol (1722) a Christion Cyffredin (1724). Parhaodd i gyhoeddi llyfrau tebyg yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1741.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • James Ifano Jones, A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923 (Caerdydd, 1925)
  • Journal of the Welsh Bibliographical Society 1 (1983/4): 129-32;
  • J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads Printed in the 18th Century (Llundain: 1908-11)