Thomas Evans (Telynog)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o Gymro oedd Thomas Evans (8 Medi 1840 - 29 Ebrill 1865), a fu'n adnabyddus i'w gyfoeswyr wrth ei enw barddol Telynog.

Ganwyd Thomas Evans yn fab i Thomas ac Elisabeth Evans yn Aberteifi, Ceredigion, ar 8 Medi 1840. Saer llongau oedd ei dad ac roedd ganddo bedwar o frodyr. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd, ond roedd yn blentyn athrylithgar. Yn 11 oed cafodd ei osod i weithio fel gwas ar fwrdd llong a hwyliai rhwng Aberteifi a phorthladdoedd bychain eraill yn ne Cymru.

Ffarweliodd a'r llong yn ddirgel ar ymweliad â Hwlffordd a gwnaeth ei ffordd i Aberdâr, gan werthu ei ddillad ar y ffordd i brynu bwyd, lle cafodd waith yn un o'r pyllau glo. Dechreuodd lenydda a chymryd rhan yn y cymdeithasau lleol a gwaith y capeli. Er gwaethaf ei anfanteision a chaledi ei fywyd daeth yn adnabyddus fel llenor ifanc dawnus. Un o'i gydnabod oedd y bardd Dafydd Morganwg, awdur Yr Ysgol Farddol boblogaidd.

Ond syrthiodd yn sâl, effaith iselder a'r gwaith caled, mae'n debyg. Enillodd y wobr yn Eisteddfod Merthyr Tudful yn Nadolig 1864 am ei bryddest, ond bu farw rhai wythnosau'n ddiweddarach, ar ôl dychwelyd i Aberdâr. Pedwar ar ugain oed yn unig oedd ef pan fu farw a mawr fu'r galar ar ei ôl.

Mae ei farddoniaeth yn enghraifft dda o ganu telynegol y cyfnod, ac mae'r bardd yn defnyddio prioddulliau llafar yn ei ddarnau ysgafn, megis ei ddychan i Sais a honnai fod Aberteifi ar fin disgyn i'r môr, fel Cantre'r Gwaelod gynt. Cyhoeddwyd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Barddoniaeth Telynog, gan ei gyfeillion yn 1866. Daeth yn gyfrol boblogaidd. Mae'n cynnwys ei awdlau, cywyddau, ac englynion, ar destunau fel caethwasiaeth yn America, ymdrechion Gwlad Pwyl i ennill ei hannibyniaeth, cyfarchion i Garibaldi, a dychan am Dic Sion Dafydd.

Cyfeiriadau [golygu]

  • Barddoniaeth Telynog (3ydd argraffiad, 1886). Byrgofiant yn y rhagymadrodd.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Barddoniaeth Telynog (argraffiad 1af, 1866; ail argraffiad, 1870; 3ydd argraffiad, Cwmafon, 1886).