Llandudoch
Pentref yng ngogledd Sir Benfro yw Llandudoch (Saesneg: St. Dogmaels). Saif ar lan orllewinol aber Afon Teifi, gyferbyn a thref Aberteifi ac ar y ffordd B4546.
Ceir eisteddfod gadeiriol flynyddol yma. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn dechrau gerllaw. Hyd yn ddiweddar roedd y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Ceredigion yn mynd trwy'r pentref, ond yn 2002 pasiwyd mesur i roi'r pentref i gyd yn Sir Benfro.
Gefeilliwyd Llandudoch a Tredarzeg yn Llydaw.
Hanes [golygu]
Yn 987 anrheithiwyd y lle gan y Daniaid.
Yr adeilad mwyaf diddorol yma yw adfail Abaty Llandudoch, a sefydlwyd gan fynachod Urdd y Tironiaid o Ffrainc yn 1115 ar safle clas Celtaidd cynharach. Yn yr eglwys, y drws nesaf i'r abaty, mae Carreg Sagranus, sydd wedi bod yn bwysig iawn i ysgolheigion fel allwedd i fedru dehongli arysgrifau Ogam. Mae'r arysgrif Ladin arni yn coffáu Sagarani fili Cunotami, ac mewn Ogam Sagrani maqi Cunatami (Sagranus fab Cunotamus).
Yn 1091 cafwyd brwydr fawr yma lle lladdodd Rhys ap Tewdwr Gruffudd ap Maredudd.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
Cysylltiad allanol [golygu]
Abercastell · Abercuch · Aberdaugleddau · Abereiddi · Abergwaun · Aberllydan · Amroth · Angle · Arberth · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Casblaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd Bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgerran · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm yr Eglwys · Dale · Dinas · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Hwlffordd · Jeffreyston · Johnston · Little Haven · Llanbedr Efelffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maiden Wells · Manordeifi · Maenorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Neyland · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Penfro · Pentre Galar · Pont Canaston · Pont Fadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rosebush · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Ffrêd · St. Florence · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tavernspite · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Treglarbes · Tregroes · Treletert · Tremarchog · Tyddewi · Waterston · Uzmaston · Wdig · Yerbeston