Fflach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cwmni Recordiau Fflach)
Fflach
Math
label recordio
Sefydlwyd1981
SefydlyddAil Symudiad
PencadlysAberteifi
Gwefanhttp://www.fflach.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cwmni recordio a sefydlwyd gan ddau frawd, Richard a Wyn Jones ym 1981 ydy Fflach. Roedd y ddau ohonynt yn aelodau o'r grŵp Ail Symudiad. Yn ogystal â recordio caneuon Ail Symudiad, roedd y cwmni hefyd yn recordio caneuon grŵpiau eraill, gan gynnwys Maffia Mr Huws.

Sefydlwyd y stiwdio mewn festri capel yn Aberteifi cyn symud yn ddiweddarach i Heol Dinbych-y-Pysgod, ble newidiwyd adeilad allanol i fod yn stiwdio. Recordiodd y cwmni amrywiaeth o fathau gwahanol o gerddoriaeth gan gynnwys corau, canu gwerin a cherddoriaeth roc.

Is-labeli[golygu | golygu cod]

  • fflach:tradd. Sefydlwyd ym 1997 er mwyn hybu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Rasp. Sefydlwyd yn 2000 ar gyfer cerddoriath pop a roc.

Detholiad artistiaid[golygu | golygu cod]

Ar Fflach

Ar Rasp

Ar fflach:tradd

Dolen allanol[golygu | golygu cod]