Cwrwgl
Cwch pysgota bychan a syml iawn yw cwrwgl neu corwgl (enw gwrwyaidd; lluosog: cwryglau, cyryglau neu coryglau). Mae cwrwgl yn ysgafn iawn. Yr oedd yn cael ei ddefnyddio ar afonydd Cymru a Lloegr oesoedd yn ôl ac hyd yn oed cyn cyfnod y Rhufeiniaid. Bellach dim ond ar ychydig o afonydd Cymru y gwelir y cwrwgl heddiw, sef afon Tywi, afon Teifi ac Afon Tâf.
Ysgafnder oedd prif rinwedd y corwgl. Yr oedd hefyd yn hawdd i'w wneud. Gwneir ef o groen anifail a gwiail. Fel arfer, mae dau berson yn pysgota gyda'i gilydd pan yn defnyddio cwrwgl, pob un ohonyn mewn cwrwgl ei hun a defnyddir rhwyd rhwng y ddau i ddal y pysgod.
Mae'r currach neu gurragh a ddefnyddir yn Iwerddon a'r Alban yn debyg iawn, ond yn fwy. Ardaloedd eraill lle defnyddir badau tebyg yw America (Bullboat yr Indiaidd), Irac (y Gufa), ac India (y Parisal).
Cynnwys |
Hanes a thraddodiad [golygu]
Dangosa gerfiadau i gwryglau gael eu defnyddio gan y Brythoniaid. Disgrifiodd Gerallt Gymro gwryglau yng Nghenarth ym 1188.[1] Yn debyg, croen buwch oedd gorchudd gwreiddiol y cwrwgl, ac o hynny ddaeth maint bychan y cwch.[2]
Wedi i'r cwrwglwr gymryd ei gwch o'r dŵr, bydd yn ei droi drosodd ar y gwair ac yn rhoi cerrig yn bwysau wrtho. Unwaith i'r cwrwgl sychu, cariodd y pysgotwr y cwch ar ei gefn. O'r traddodiad hwn daw'r dihareb Cymraeg llwyth dyn ei gorrwg.[3]
Adeiladu [golygu]
Heddiw, defnyddir cynfas yn amlach na chroen anifail, a'i ddiddosir â thar neu byg. Mae'r cwrwgl arferol yn pwysgo saith i 15 o bwysi, ac yn mesur tua chwe throedfedd o hyd a phedair troedfedd o led. Mae gwaelod y cwch yn wastad, ac mae'r ochrau fel arfer yn llai nag un droedfedd ac yn codi'n berpendicwlar i'r gwaelod. Mae un ben o'r cwrwgl yn bigfain.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Tudalen am cwryglau ar Data Wales
|
|
||
|---|---|---|
| Masnachol | Cychod pysgota • Treill-long • Pysgota rhwyd hir | |
| Traddodiadol | Cychod pysgota traddodiadol · Bokkura · Caïque · Cape Islander · Chasse-marée · Coble · Cwrwgl · Couta · Carafel · Dogger · Dhoni · Dugout · Falkuša · Felucca · Fifie · Friendship sloop · Galway hooker · Herring buss · Jangada · Jukung · Kolae · Lugger · Luzzu · Mackinaw · Monterey clipper · Nobby · Pirogue · Reed boat · Sampan · Sgoth · Sixareen · Smack · Yawl · Yoal | |
| Ceubal | Glannau · Cape Ann · Gloucester · Ceubal Afon McKenzie · Swampscott | |
| Cychod wstrys | Bugeye · Deadrise · Canw hir · Pungy · Sgwner · Sharpie · Skipjack | |
| Adloniant | Cwch draenog y môr · Farley | |