Twyni Tywod Ynyslas
Math | twyn tywod |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynyslas |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.525°N 4.057°W |
Lleolir Twyni Tywod Ynyslas yng Ngheredigion, Cymru. Maent yn ffinio Bae Ceredigion ac aber Afon Dyfi (rhwng Ynyslas ac Aberdyfi, Gwynedd. Mae'r twyni (neu'r "tywynnau" hyn) yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Bywyd gwyllt[golygu | golygu cod]
Mae'r rhywogaethau canlynol i'w canfod yng nghynefin llwm y twyni: madfall Lacerta vivipara, y ffwlbart, cwningod, a llyg. Clywir yr Ehedydd, Corhedydd y Waun (Anthus pratensis) a'r Cwtiad Torchog yn canu uwch y tywod a gwelir sawl math o löyn byw gan gynnwys y Britheg werdd, Gweirlöyn y perthi a gwyfyn o'r enw Teigr ôl-adain goch.[1] [2]
Coedwig y Borth[golygu | golygu cod]
Ar y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas, pan fo'r môr ar drai, gellir gweld boncyffion hen goed sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol, cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Yn Ionawr 2014, oherwydd y gwyntoedd cryfion dadorchuddiwyd rhagor o'r bonion coed pan gliriwyd llawer o'r tywod; ymhlith y gwahanol fathau o goed roedd: y binwydden, y wernen, y dderwen a'r fedwen. Gorwedda'r bonion hyn mewn mawn. Dyddiwyd y coed drwy garbon-ddyddio a cheir tystiolaeth eu bod rhwng 4,500 a 6,000 oed.[3] Mae'r bonion yn ymestyn am tua dwy filltir a hanner.[4]
Dyma un rheswm, mae'n debyg, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "BBC Wales - Twyni Tywod Ynyslas 12 Mawrth 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-03. Cyrchwyd 2013-12-23.
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru[dolen marw]
- ↑ Gwefan ceredigioncoastalpath.com; Archifwyd 2014-03-20 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Chwefror 2014.
- ↑ Gwefan y Guardian; adalwyd 22 Chwefror 2014.
Dolennau allanol[golygu | golygu cod]
- BBC Archifwyd 2012-01-03 yn y Peiriant Wayback.
- Y Borth Archifwyd 2013-07-02 yn y Peiriant Wayback.