Ehedydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ehedydd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Alaudidae
Genws: Alauda
Rhywogaeth: A. arvensis
Enw deuenwol
Alauda arvensis
Linnaeus, 1758
Alauda arvensis

Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal a mynyddoedd Gogledd Affrica.

Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16-18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.

Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.

Cyfeiriadau chwedlonol a llenyddol[golygu]

Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau'r Solway Firth.

Dywedir i gân yr Ehedydd ysbrydoli Dafydd y Garreg Wen i gyfansoddi'r alaw "Codiad yr Ehedydd". Ceir hefyd yr hen bennill "Marwnad yr Ehedydd":

Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie,
Awn â gyr o wŷr ac arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.

Awgrymwyd y gallai'r ehedydd yma fod yn gyfeiriad at Owain Glyndŵr.[1]

Nodiadau[golygu]

  1. E. Wyn James: Ballad Implosions and Welsh folk stanzas