Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi

Oddi ar Wicipedia
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5269°N 4.0514°W Edit this on Wikidata
Map

Saif Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, neu yn llawn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a Chors Fochno (Saesneg: Dyfi National Nature Reserve) ar arfordir gogledd Ceredigion, tua 7 milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Mae dan reolaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae'n cynnwys tair safle ar wahân, o gwmpas aber Afon Dyfi:

Dynodwyd yr ardal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn 1969, ac mae'n rhan o ardal graidd Biosffer Dyfi, sydd wedi ei enwi gan UNESCO ers 2009 fel yr unig warchodfa fiosffer yng Nghymru. Ceir canolfan i ymwelwyr yn Ynyslas, ac mae'r cyfleusterau’n cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol, sw fôr, siop a lle chwech.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru;[dolen marw] adalwyd 24 Rhagfyr 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.