Elenydd

Oddi ar Wicipedia
Elenydd
Tirwedd clasurol o fryniau Elenydd
Mathucheldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
Powys
Sir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4°N 3.7°W Edit this on Wikidata
Map

Ardal o fryniau yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yw Elenydd. Mae'n ymestyn o fryniau ardal Pumlumon yn y gogledd (i'r de o Fachynlleth ac i'r dwyrain o Aberystwyth) i lawr i fryniau gogledd Sir Gaerfyrddin a de-ddwyrain Ceredigion, gan gynnwys sawl bryn canolig ei uchder yn y ddwy sir honno ac yng ngorllewin Powys. Ni cheir cytundeb unfarn ar derfyn deheuol Elenydd. Tueddir i gyfeirio at yr ardal yn Saesneg fel y "Cambrian Mountains", ond enw anaddas a diystyr ydyw (gweler hefyd Cambria a Cambriaidd). Ceir cyfeiriadau at Elenydd (yn y ffurf Cymraeg Canol Elenid / Elenyd) mewn sawl llawysgrif gan ddechrau ar ddiwedd y 12g, gan gynnwys chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogion a gwaith Gerallt Gymro.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Pumlumon Fawr, copa uchaf Elenydd

Ucheldir o rosdiroedd a bryniau yn hytrach na chadwyn o fynyddoedd fel y cyfryw yw Elenydd. Mae'n ardal anghysbell sy'n gartref i adar prin fel y Barcud coch. Cyfeirir ato weithiau fel "Anialdir Gwyrdd Cymru". Ceir olion sawl gweithfa plwm, neu plwm ac arian, yn yr ardal, yn arbennig yng nghyffiniau Pumlumon, rhai ohonynt yno ers Oes y Rhufeiniaid. Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am aur ym mwyngloddiau Dolaucothi, ar odre ddeheuol Elenydd.

Ond er bod y bryniau eu hunain yn llwm ac agored, yn y cymoedd sy'n eu brodio ceir nifer o bentrefi bychain a chymunedau clos. Mewn cwm ar odre orllewinol Elenydd ceir adfeilion Abaty Ystrad Fflur.

Rhai o fryniau Elenydd[golygu | golygu cod]

Wedi eu rhestru o'r gogledd i'r de

Llynnoedd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Iwan Wmffre, The Place-Names of Cardiganshire' cyf.3 (2004), t.1314

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]