C'mon Midffild!

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld!. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd gyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd Wali Thomas.

Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffild! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: C'mon Midffîld a Rasbrijam. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwpp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.

Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3]. Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.

Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]

Cynnwys

[golygu] Cymeriadau

[golygu] Penodau

  • Yr Italian Job
  • Il Lavoro In Italia
  • Ty Fy Nhad
  • Tibetans V Mouthwelians
  • O Mam Bach
  • Meibion Bryncoch
  • Ffilm Yr Eidal
  • Trwy Ddirgel Ffyrdd
  • Fe Gei Di Fynd I'r Bol…
  • Eira Man, Eira Mawr
  • Yr Etholedig Rai
  • Cymorth Hawdd Ei Gael
  • Yr Alpha A'r Omega
  • Wrth Gicio A Brathu
  • Henaint Ni Ddaw Ei Hunan
  • Elen Fwyn, Elen…
  • Mi Af I Briodas Yfory
  • Y Cocyn Hitio
  • Dechrau'r Diwedd
  • Y Maes Chwarae
  • Seren Ddisglair
  • Lladron y Nos
  • Traed Moch
  • Y Trip
  • Can Di Bennill Fwyn
  • Craig o Arian
  • Bryn o Briten
  • Y Gwir yn Erbyn y Byd
  • Gweld Ser
  • Rhyfel Cartra
  • Match o Ddy' De
  • Nadolig Llawen?

[golygu] Rhaglenni/Ffilmiau Unigol

  • C'mon Midffild a Rasbrijam
  • Doli Bryncoch
  • Midffild - Y Mwfi

[golygu] Rhyddhau

Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng 2005 [1] a 2007.

[golygu] Ffynonellau

  1. 1.0 1.1 C'Mon Midffild? This is a friend Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
  2. 'Clwb pêl-droed yn dathlu 60' BBC 11 Mehefin 2007
  3. 'Dathlu 60 mlynedd o glwb Y Bont' BBC 22 Gorffennaf 2007
  4. Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant
Blank television set.svg Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill