Alun Ffred Jones
| Alun Ffred Jones | |
|
Aelod Cynulliad dros Gŵyr
|
|
| Cyfnod yn y swydd 3 Mai 2003 – 1 Mai 2007 |
|
|
Aelod Cynulliad dros Gŵyr
|
|
| Deiliad | |
| Cymryd y swydd 1 Mai 2007 |
|
|
|
|
| Geni | 29 Hydref 1949 Brynaman, Sir Gaerfyrddin |
|---|---|
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Alma mater | Prifysgol Bangor |
Gwleidydd Cymreig yw Alun Ffred Jones (ganwyd 29 Hydref 1949). Ef yw Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros etholaeth Arfon. Etholwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Ef yw'r Gweinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Ganed Alun Ffred Jones ym Mrynaman ym 1949.
Mae'n adnabyddus am gyd-ysgrifennu a chyfarwyddo C'mon Midffild!, rhaglen gomedi fwyaf llwyddiannus S4C. Cyn dod yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu gyda Ffilmiau'r Nant, Caernarfon, bu'n athro ysgol a phennaeth adran yn y Gymraeg, ac yn newyddiadurwr gyda HTV. Mae'n gyn Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn Gadeirydd Antur Nantlle ac yn Gadeirydd Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle.
Yn gyn-gadeirydd CYFLE a Bwrdd Rheoli TAC, mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth am ddarlledu ac hyfforddi.
Ymysg ei ddiddordebau eraill mae datblygu cymunedol, theatr, chwaraeon a beicio.
[golygu] Carreg filltir i'r iaith Gymraeg
Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.[1]
[golygu] Dolen allanol
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ BBC Cymru: 'Carreg Filltir i'r iaith' Adroddiad sy'n cynnwys clip fideo o'r digwyddiad.
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Cynulliad dros Gaernarfon 1999 – 2007 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Cynulliad dros Arfon 2007 – presennol |
Olynydd: deiliad |
- Genedigaethau 1949
- Cynhyrchwyr teledu Cymreig
- Addysgwyr Cymreig
- Gwleidyddion Cymreig
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Aelodau Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2015
- Pobl o Sir Gaerfyrddin
- Egin Cymry