Cylch Cerrig Tyfos

Oddi ar Wicipedia
Cylch Cerrig Tyfos
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.937412°N 3.44712°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ028387 Edit this on Wikidata
Map

Heneb gynhanesyddol yw Cylch cerrig Tyfos, a leolir ger ffermdy Tyfos rhwng Cynwyd a Llandrillo yn Sir Ddinbych. Mae'n enghraifft o 'gylch carnedd', sef cylch o gerrig wedi'u gosod gyda charnedd. Yn ôl pob tebyg mae'n dyddio o Oes yr Efydd.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Cylch cerrig Tyfos

Saif y cylch cerrig hwn ar lan afon Dyfrdwy. Ceir twmpath o bridd, sef gweddillion y garnedd, gyda chylch o 13 carreg ar ei ben. Mae'r garnedd yn mesur 28 metr ar draws ac yn 1.25 metr o uchder yn y canol. Mae'r cylch yn mesur 17 metr ac yn sefyll ar ben y garnedd. Does dim o'r cerrig yn dal i sefyll erbyn hyn ac mae bylchau yn y cylch yn awgrymu y bu rhagor o gerrig yno ar un adeg.

Fel rheol mae enweb o'r fath yma yn cynnwys claddfa dan y garnedd, ond does dim olion o hynny heddiw.

Mynediad[golygu | golygu cod]

Saif yr heneb ar dir preifat. Dylai ymwelwyr gofyn yn y ffermdy am ganiatad i ymweld â'r safle, sydd fel arall i'w gweld o'r lôn heibio i'r fferm.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tudalennau 31-32.