Gwlad y Basg
- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Gwlad y Basg gyfan. Am gymuned ymreolaethol Sbaen, gweler Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Rhanbarth yn ne-orllewin Ewrop rhwng Gwlff Gasgwyn a'r Pyreneau yw Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Herria). Fe'i rhennir rhwng Sbaen a Ffrainc. Mae'n cyfateb yn fras i famwlad y Basgiaid a'r iaith Fasgeg.
Cynnwys |
Daearyddiaeth [golygu]
Mae Gwlad y Basg yn cynnwys saith talaith draddodiadol:
- Gogledd Gwlad y Basg (Iparralde)
- Lapurdi (Ffrangeg: Labourd)
- Nafarroa Beherea (Ffrangeg: Basse-Navarre)
- Zuberoa (Ffrangeg: Soule)
- De Gwlad y Basg (Hegoalde)
Mae Araba, Biskaia a Gipuzcoa yn ffurfio Euskadi, cymuned ymreolaethol Sbaen, tra mae Nafarroa yn gymuned ymreolaethol ynddoi hun.
Hanes [golygu]
Cred rhai mai'r Basgiaid yw gweddillion trigolion gwreiddiol Gorllewin Ewrop, gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r cyfnod Paleolithig, cyn dyfodiad mewnfudwyr o'r dwyrain yn dwyn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Cyfeiria awduron clasurol megis Strabo a Plinius yr Hynaf at lwythau megis y Vascones a'r Aquitani yn byw yn y tiriogaethau hyn, ac mae rhywfaint o dystiolaeth eu bod eisoes yn siarad Basgeg.
Profwyd yn ddiweddar fod y Basgiaid yn meddu ar yr un "cromosomau Y" â'r Cymry. Dywedodd yr Athro David Goldstein o Goleg Prifysgol Llundain, "Yn ystadegol does dim modd gwahaniaethu rhwng "cromosomau Y" y Basgiaid a’r Cymry."[1] Credir bellach gan genetegwyr fod y Celtiaid a’r Basgiaid yn ddisgynyddion yr Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Palaeolithig o Siberia, ac mae tystiolaeth genynnol yn olrhain y Cymry, y Gwyddelod, yr Albanwyr Gaelaidd, y Basgiaid a phobloedd brodorol yr Amerig yn ôl i tua 50,000 flynyddoedd a hynny i ardal Dyffryn Afon Yenisei yn Siberia.
Yn y Canol Oesoedd cynnar, adwaenid y diriogaeth rhwng Afon Ebro ac Afon Garonne fel Vasconia, ac am gyfnodau bu yn annibynnol dan Ddugiaid Vasconia. Rhannwyd y diriogaeth yn dilyn concwest y rhan fwyaf o Benrhyn Iberia gan y Mwslimiaid ac ymestyniad teyrnas y Ffranciaid tua'r de dan Siarlymaen.
Yn y 9fed ganrif, Teyrnas Pamplona oedd y grym mwyaf yn yr ardal, a datblygodd Teyrnas Navarra o'r deyrnas yma yn ddiweddarach. Ym mlynyddoedd cynnar y 16eg ganrif, unwyd rhan ddeheuol y deyrnas yma a Theyrnas Castilla, tra daeth y rhan ogleddol yn rhan o Ffrainc.
Roedd gan y taleithiau Basgaidd fesur helaeth o hunanlywodraeth yn Sbaen a Ffrainc am gyfnod. Daeth hyn i ben yn Ffrainc yn dilyn Chwyldro Ffrainc, ac yn Sbaen yn dilyn y Rhyfeloedd Carlaidd yn rhan gyntaf y 19eg ganrif. Y y cyfnod diweddar, mae Cenedlaetholdeb Basgaidd yn anelu at uno'r saith talaith yn wladwriaeth annibynnol.
Demograffeg [golygu]
Y prif ddinasoedd yw:
- Bilbo (354,145)
- Vitoria-Gasteiz (226,490)
- Pamplona (195,769)
- Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) (183,308)
- Barakaldo (95,675)
- Getxo (83,000)
- Irun (59,557)
- Portugalete (51,066)
- Santurce (47,320)
- Baiona (44,300)
Chwaraeon [golygu]
Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd ymysg chwaraeon Gwlad y Basg, gyda'r prif dimau yn cynnwys Athletic Bilbao, Real Sociedad ac Osasuna. Nid oes gan Dîm pêl-droed Gwlad y Basg gydnabyddiaeth ryngwladol fel tîm cenedlaethol gan FIFA nac UEFA. Serch hynny, mae tîm cenedlaethol Ffederasiwn Bêl-droed Gwlad y Basg yn chwarae gemau rhyngwladol â gwledydd cydnabyddedig.
Yn y rhan ogleddol, yn Ffrainc, mae rygbi'r undeb yn fwy poblogaidd na phêl-droed, gyda thîm Biarritz, Biarritz Olympique Pays Basque, yn arbennig o adnabyddus. Mae seiclo a pêl fasged a mynydda hefyd yn boblogaidd. Gêm a gysylltir yn arbennig â Gwlad y Basg yw Pilota (pelota yn Sbaeneg).