Ikurrina

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Gwlad y Basg: yr Ikurrina

Ikurrina yw'r enw ar faner Gwlad y Basg. Fe'i sillefir fel "Ikurrina" yn y Basgeg[1] ac "Ikurriña" yn y Sbaeneg[2]. Defnyddir yr enw fel y gelwir baner Y Ddraig Goch ar faner Cymru neu'r Stars and Stripes ar faner UDA. Mae'n faner swyddogol ar Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) ond cydnabyddir hi'n gyffredinol fel baner i bob un o 7 talaith Gwlad y Basg (Euskal Herria) er bod peth anghydfod yn ei chylch yn nhalaith Nafar (Navarra yn Sbaeneg, Nafaroa yn Basgeg).

Yr Enw[golygu]

Bathwyd y gair 'Ikurriña' gan y ddau frawd cenedlaetholgar, Luis a Sabin Arana, a sefydlodd blaid genedlaethol yr EAJ-PNV ac a fathodd nifer helaeth o eiriau Basgeg.

Defnyddiwyd y gair Basgeg ikur ('arwydd' neu 'faner') ond golyga lawer mwy na hyn: baner cenedlaethol y Basgiaid. Yn hyn o beth mae'n debyg i'r ffordd y mae geiriaid generig am faner yn Catalwnia, Senyera a baner Ynysoedd y Ffaroe, Merkið yn enwau ar faneri y gwledydd hynny. Roedd sillafiad gwreiddiol y brodyr Arana yn seiliedig ar dafodiaith talaith Baskaia, sef ikuŕiñ. Mae'r gair yma bellach wedi ei safonni yn y Fasgeg gyfoes i ikurrin. Yn y Fasgeg dynodir y fanod ar ddiwedd y gair gyda'r lythyren 'a'. Ystyr ikurrina felly, yw 'Y Faner'.[1]

Dyluniad[golygu]

Dyluniwyd y faner gan y brodyr Luis a Sabin Arana. Mae'n debyg iawn i faner y Deyrnas Unedig ac mae'n bosib y byddai rhai pobl yn ei chamgymryd am fersiwn Gymreig o faner 'Jac yr Undeb'.

Mae'r coch yn symbol o bobl Biskaia, y gwyrdd yn symbol o gryfder coeden dderw Gernika, sydd ei hun yn symbol o hen gyfreithiau Baskaia a'r Basgiaid, y 'Fueros'. Dros y saltire, ceir croes wen, symbol o ymlyniad y Basgiaid i'r ffydd Gatholig. Cysylltir y lliwiau erbyn hyn yn lliwiau cenedlaethol y Basgiaid.

Hanes[golygu]

Dyluniwyd y faner yn 1894 fel baner Plaid Genedlaethol y Basgiaid, y EAJ-PNV, ar gyfer talaith Biskaia, gyda'r disgwyl y byddai baner arall ar gyfer yr holl diriogaeth Basgaidd eraill yn cael ei chreu. Gan mai yn y dalaith honno roedd y PNV gryfaf dyna'r faner a ddefnyddiwyd helaethaf ganddi a gydag amser daeth i'w hystyried fel baner ar gyfer yr holl daleithiau. Fe'i chwifiwyd gyntaf yn yr "Euzkeldun Batzokija", y gymdeithas wleidyddol a ragflaenodd yr EAJ-PNV. Mabwysiadwyd y faner gan y blaid newydd yn 1895 ac yn 1933 fe'i cynigiwyd fel baner ar gyfer yr holl wlad.

Oherwydd poblogrwydd y faner fe gynigiodd y gwleidydd sosialaidd, Aznar hi fel baner Rhanbarth Hunanlywodraethol Basg yn 1936. Defnyddiwyd y faner hefyd fel jac forwrol gan Lynges Achlysurol Gwlad y Basg oedd yn rhan o lynges y Weriniaeth a oedd yn weithredol ym Mae Bisgai yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Yn 1938, wedi i'r Cadfridog Franco guro Llywodraeth Weriniaethol Sbaen, fe waharddwyd y faner, er iddi barhau i gael ei defnyddio gan y Basgwyr o fewn Iperralde (tair sir gogleddol y Basgiaid o fewn gwladwriaeth Sbaen). Dros y degawdau a ddilynodd daeth yn symbol o wrthwynebiad y Basgwyr i lywodraeth asgell dde, genedlaetholaidd Sbaenaidd Franco ac fe'i defnyddiwyd gan fudiad terfysgol ETA fel baner o wrthryfel.

Cyfreithlonwyd yr Ikurrina ar 19 Ionawr 1977. Yn Erthygl 5 o Stadud Hunanlywodraeth Gwlad y Basg yn 1979 fe fabwysiadwyd yr ikurrina yn faner y Gymuned Hunanlywodraethol Basg. Fe'i defnyddir fel baner answyddogol gan Fasgwyr yn y bedair dalaith arall hefyd.

Gwleidyddiaeth yr Ikurrina[golygu]

Caiff yr ikurrina ei chwifio ar draws swyddfeydd a phencadlysoedd yn Euskadi fel rheol gyda baner Sbaen a baner yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Gorffennnaf 2007 dyfarnodd Goruchaflys Sbaen yn erbyn apêl Llywodraeth Euskadi gan orfodi'r Llywodraeth i chwifio baner Sbaen o adeilad Pencadlys yr Ertzaintza (Heddlu'r Gymuned Fasgeg) ac adeiladau swyddogol eraill.

Protocol yr Ikurrina[golygu]

Caiff rhuban ddu eich chlymu ar ganol y groes wen ar y faner i goffau Basgwyr a bu farw yn ymladd dros ryddid y wlad - boed yn Rhyfel Catref Sbaen (a welir yn aml fel rhyfel dros ymreolaeth Basgaidd gan sawl Basgwr) neu aelodau ETA gyfoes.

Nafar[golygu]

Bu anghydfod ynghylch chwifio a ddefnyddio'r faner fel un swyddogol yn y dalaith Fasgeg, Nafar (Nafara). Er bod Nafar yn un o saith talaith hanesyddol y Basgiaid ac i'r prifddinas, Iruña (Pamplona yn Sbaeneg) fod yn brifddinas y brenhinoedd Basgeg, fe geir yno hunaniaeth gan nifer sy'n mynegi ei hunain fel Nafaroaid yn hytrach na Basgwyr. Yn fras mae trigolion i'r gogledd o ddinas Iruña, tra'n falch o'u hunaniaeth Nafar, yn debycach i drigolion talaith Euskadi gan siarad Basgeg a chefnogi pleidiau sydd o blaid undod ac hunanlywodraeth Gwlad y Basg. Mae'r gymuned yn ddwy trydydd waelod y dalaith ac yn yn uniaethu'n gryfach gyda'r wladwriaeth Sbaeneg a'r iaith a'r diwylliant Sbaeneg tra'n eiddigeddus o'r rhyddid a geir ganddynt fel cymuned o fewn Sbaen. Yn yr un modd ag y mae gan tair sir Euskadi (y Gymuned Hunanlywodraethol Basg) yr hawl fel taleithiau 'Foral' i godi a chadw ei threthi, gwelir yr un hawl gan gymuned Nafar hefyd.

Yn 2003 yn dilyn mwyafrif llywodraethol gan bleidiau UPN a CDN, pasiodd Senedd Nafar Ddeddf Symbolau Senedd Foral Nafar ar reoli pa faneri caiff eu chwifio mewn swyddfeydd yr awdurod. Yn ôl y ddeddf hon dim ond baneri Nafar a Sbaen caiff eu chwifio tu allan i swyddfeydd ac adeiladau cyhoeddus ac ysgolion y dalaith. Gwaherddir (heblaw mewn achos o ymweliad swyddogol neu efeillio trefi) chwifio unrhyw faneri y tu allan i cynghorau trefol o fewn Nafar heblaw am faneri'r cyngor lleol, Nafar, Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd. Yn ôl y ddeddf hon mae'r ikurrina wedi ei gwahardd ac fe all Senedd Nafar atal taliadau i gyngor tref sy'n chwifio'r faner.

Bu i rai gynghorau lleol y dalaith benderfynnu ond chwifio faner y cyngor lleol ac hepgor y baneri eraill fel protest. Daeth cynghorau eraill o gylch y gwaharddiad drwy chwifio'r ikurrina ger llaw y mast swyddogol, ar balconi yr adeilad swyddogol neu mewn lle amlwg. Byddant felly yn osgoi torri deddf symbolau gan mai cyfeirio at chwifio'r baneri ar fastiau'r dref gwna deddf 2003.

Yn dilyn llwyddiant cynghrair pro-Basgeg NaBai yn etholiadau i dref Atarrabia yn 2007 penderfynwyd codi'r ikurrina y tu allan i adeilad cyngor y dref. Bu protestiadau gyda'r blaid pro-Sbaenaidd, UPN. Bellach mae baner Nafar a'r ikurrina yn hedfan mewn parc ger neuadd y dref gan nad oes cyfeiriad i hyn yn y ddeddf.

Defnyddiwyd dathliadau blynyddol Gŵyl San Fermin yn Iruña pan fydd teirw yn rhedeg drwy'r ddinas fel cyfle i herio Deddf Symbolau Nafar ac i nodi hunaniaeth Basgeg Nafar i gynulleidfa ryngwladol.

Gan nad oes modd i'r heddlu ymddangos yn y sgwâr lle cynhelir y seremoni agoriadol ac lle cychwynir y dathliadau clec fawr o flaen torf anferth daeth yn draddodiad i radicalwyr Basgeg i geisio arddangos yr ikurrina.

Yn 2013 llwyddwyd i ohirio cychwyn y dathliadau gan rai munudau wrth i faner ikurrina anferth gael ei halio o un ochr o'r sgwâr i'r llall o flaen balconi lle cyhoeddir dechrau'r Ŵyl gan bwysigon y ddinas.

Yr Ikurrina yn Aberystwyth[golygu]

Ers ddiwedd yr 1980au bu'r ikurrina yn chwifio ar hyd Promenâd Aberystwyth. Mae'n chwifio fel rhan o gyfres o faneri gwleidydd di-wladwriaeth (Catalwnia, Llydaw, De Tirol) neu, sydd bellach, ers cwymp yr Undeb Sofietaidd wladwriaethau llawn (Estonia, Latfia a Lithwania).

Codwyd y baneri hyn ar hyd brif Bromenâd Aberystwyth ar ysgogiad y cynghorydd tref Plaid Cymru, Gareth Butler. Gelwir hwy gan rai yn 'Baneri Butler'.

Oriel[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Euskaltzaindia: Geiriadur Basgeg Safonol, adalwyd 2010-10-04.
  2. Real Academia Española (2001): «ikurriña», Diccionario de la Lengua Española, Cyfrol 22, ar gael ar-lein. Adalwyd 2014-03-30.