Afon Yenisei

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhwydwaith afonol Afon Yenitsei

Afon fawr yng nghanolbarth Rwsia yw Afon Yenisei (Rwseg: Енисе́й). Dyma'r afon fwyaf i lifo i'r Cefnfor Arctig, sydd hefyd, gyda hyd o 5,539 km (3,445 milltir), y bumed afon yn y byd o ran ei maint. Gan darddu ym Mongolia, mae'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd i lifo i mewn i Gwlff Yenisei ar y Môr Kara. Yn Siberia mae nifer fawr o afonydd llai yn aberu ynddi, yn cynnwys Afon Angara, sy'n tarddu yn Llyn Baikal, ac Afon Tunguska Isaf. Mae basn dalgylch Afon Yenisei yn dynodi terfyn dwyreiniol Gwastadedd Gorllewin Siberia.

Afon Yenisei yn llifo heibio i Krasnoyarsk

Yn ei rhannau uchaf mae'n llifo trwy ardaloedd anghysbell yn ardal Crai Krasnoyarsk lle nad oes llawer o bobl yn byw. Yn ei chwrs canol ceir cyfres o argaeau trydan dŵr sy'n ffynhonnell ynni bwysig yng nghanolbarth Rwsia. Cafodd rhai o'r argaeau hyn eu codi gan lafur penyd o'r gulags ac mae llygredd yn broblem heddiw. Mae'n llifo yn ei blaen i'r gogledd trwy ardal o dirwedd taiga eang, gan dderbyn nifer fawr o afonydd a ffrydiau, i gyrraedd Môr Kara mewn ardal o dirwedd twndra lle mae'n rhewi am hanner y flwyddyn.

Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.