Crai Krasnoyarsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Crai Krasnoyarsk.
Lleoliad Crai Krasnoyarsk yn Rwsia.

Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Krasnoyarsk (Rwseg: Красноя́рский край, Krasnoyarsky kray; 'Krasnoyarsk Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Krasnoyarsk. Poblogaeth: 2,828,187 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Siberia, yng nghanol Siberia. Mae'n cynnwys 13% o diriogaeth Rwsia (2,339,700 cilometer sgwar - 903,400 milltir sgwar), gan ymestyn 3,000 km o Fynyddoedd Sayan yn y de ac ar hyd Afon Yenisei i orynys Taymyr yn y gogledd. Mae'n ffinio gyda Oblast Tyumen, Oblast Tomsk, Oblast Irkutsk, ac Oblast Kemerovo, Gweriniaeth Khakassia, Gweriniaeth Tuva, a Gweriniaeth Sakha, a Môr Kara a Môr Laptev yng Nghefnfor yr Arctig yn y gogledd.

Sefydlwyd Crai Krasnoyarsk ar 12 Gorffennaf, 1934, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Mae pobloedd brodorol y crai yn cynnwys y Cetiaid.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag-map of Krasnoyarsk Krai.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Crai Krasnoyarsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.