Llyn Baikal
Llyn Baikal neu Llyn Bajkal (Rwseg: Озеро Байкал) yw llyn dŵr croyw mwyaf y byd. Saif yn ne Siberia yn Rwsia, i'r de o Fynyddoedd Baikal. Yn y man dyfnaf, mae'n cyrraedd dyfnder o 1,637 medr, ac mae ei arwynebedd yn 31.500 km², tua'r un faint a Gwlad Belg. O ran arwynebedd mae Llyn Superior yn yr Unol Daleithiau a Canada yn fwy, ond mae Baikal yn dal mwy o ddŵr; mwy na'r cyfan o Lynnoedd Mawrion Gogledd America gyda'i gilydd. Ceir digon o ddŵr croyw yma i ddiwallu anghenion poblogaeth y byd am 30 mlynedd.
Llifa tua 300 o afonydd i'r llyn, yn cynnwys Afon Selenga yn y de. Afon Angara yw'r unog un sy'n llifo allan, i ymuno ag Afon Yenisei. Cyhoeddwyd y llyn yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1966.
-
Sjamanka, craig sanctaidd siamanaidd ar ynys Olchon yn rhan orllewinol y llyn