Teyrnas Castilla

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Castilla

Teyrnas yng ngogledd yr hyn sy'n awr yn Sbaen yn y Canol Oesoedd oedd Teyrnas Castilla (Sbaeneg: Reino de Castilla, Ffrangeg: Castille, Saesneg: Castile). Safai i'r dwyrain o Deyrnas Léon, gan ymestyn o Fae Biskaia yn y gogledd hys at ffiniau al-Andalus yn y de. Yn rhan olaf yr Oesoedd Canol, hi oedd y deyrnas fwyaf yn Sbaen.

Dechreuodd y broses o adfeddiannu Sbaen gan y Cristionogion, a elwir y Reconquista, gyda gwrthwynebiad teyrnas fychan Asturias i Fwslimiaid al-Andalus, oedd wedi meddiannu bron y cyfan o benrhyn Iberia o 711 ymlaen. Wrth i'r Cristionogion ennill tir ac ymestyn eu tiriogaethau tua'r de, ymddangosodd yr enw Castilla tua 800.

Ar y dechrau, roedd Castillia yn cael eu rheoli gan frenhinoedd Asturias a León. Yn 1037, ffurfiodd Ferdinand I deyrnas unedig Castillia a León. Yn 1058, dechreuodd Ferdinand gyfres o ryfeloedd yn erbyn y Mwslimiaid, ac arweiniodd buddugoliaethau'r Cristionogion ym mrwydrau Alarcos a la Navas de Tolosa at goncro'r tiriogaethau a elwir yn Castilla Newydd.

Tyfodd y deyrnas yn sylweddol yn ystod teyrnasiad Alphonso VI (1065-1109) ac Alphonso VII (1126-1157). Tyfodd bywyd diwylliannol y deyrnas dan Alphono X, ond dilynwyd hyn gan gyfnod hir o ymryson mewnol. Yn 1469, priododd Isabel I, brenhines Castilla a Ferdinand II, brenin Aragon, gan ddechrau'r broses o uno teyrnasoedd Castilla ac Aragon, a chreu Teyrnas Sbaen.

Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: Castilla-La Manche a Castilla-y-León.

Teyrnas Castilla yn 1210