Basgeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Basgeg
Euskara
Siaredir yn Baner Sbaen Sbaen
Baner Ffrainc Ffrainc
Rhanbarth Baner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Navarra Navarra
Iparralde
Cyfanswm siaradwyr 665,800 yn 2006[1]
Teulu ieithyddol Basgeg (Unigyn)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Baner Navarra Navarra
Rheolir gan Euskaltzaindia
Codau ieithoedd
ISO 639-1 eu
ISO 639-2 baq (B)  eus (T)
ISO 639-3 eus
Wylfa Ieithoedd
Trawsyriad teulu o'r Fasgeg (y Fasgeg yn iaith gychwynnol)
Lleoliad tiriogaeth y Fasgeg o fewn Sbaen a Ffrainc

Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Ũskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n unigyn iaith, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Hanes yr iaith[golygu]

Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.

Enghreifftiau o'r iaith[golygu]

  • Kaixo = Helo
  • Eskerrik asko = Diolch
  • Ikasle/ak = Myfyriwr/Myfyrwyr
  • Euskal Herria = Gwlad y Basg
  • Euskara = Basgeg
  • Txokolatea = Aiocled
  • Eta = a
  • Nire Jauna eta nire Jaunko = Fy Arglwydd a'm Duw (Geiriau Sant Tomos yn y Beibl)
  • Bai = Ie
  • Ez = Nage
  • Kaixo!, Agur! = Hwyl!
  • Agur!, Adio! = Tara!
  • Ikusi arte = Tan tro nesaf!
  • Egun on = Bore da
  • Mesedez = Os gwelwch yn dda
  • Barkatu = Esgusodwch fi
  • Komunak = Tai bach
  • Komuna non dago? = Ble mae'r tai bach?
  • Non dago tren-geltokia? = Ble mae'r orsaf drên?
  • Ba al da hotelik hemen inguruan? = Ble mae'r gwesty agosaf?
  • Zorionak = Gwyliau da
  • Ez dut ulertzen = Dwi ddim yn deall
  • Ez dakit euskaraz = Dwi ddim yn siarad Basgeg
  • Ba al dakizu ingelesez? = Ydych chi'n siarad Saesneg?
  • Zein da zure izena? = Beth ydy'ch enw chi?
  • Ongi etorri! = Croeso!
  • Egun on denoi = Croeso i bawb!
  • Berdin / Hala zuri ere = a chi hefyd
  • Jakina! Noski! = Mae'n iawn!
  • Nongoa zara? = O ble ydych chi'n dod?
  • Non dago...? = Ble mae'r ....?
  • Badakizu euskaraz? = Ydych chi'n siarad Basgeg?
  • Bai ote? = Wel wrth gwrs?
  • Bizi gara! = Yma o hyd!
  • Bagarela = Ni hefyd
  • Topa! = Iechyd da!
  • Hementxe! = Yma ac acw!
  • Geldi! = Arhoswch!
  • Ez dut nahi... = Dwi ddim eisiau...

Y Fasgeg yng Nghymru[golygu]

Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyffredinol[golygu]

Cyfieithiadau i'r Gymraeg[golygu]

Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:

  • O eira bedair gwaith (Lau aldiz elur) gan Bernardo Atxaga, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin, tud. 127, rhif 138, Gaeaf 2009.
  • Yfory wna i ddim colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin tud. 56 rhif 133, Gwanwyn 2008.
  • Breuddwydion yn y Gogledd / Huñvreioù en hanternoz skornet (Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 31 rhif 49, Awst 2008.
  • Dirgelion y Swyddfa / Kevrinoù ar Burev (Bulegoko misterioak), stori fer gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 37 rhif 47, Awst 2007.
  • Y Peiriant Golchi (Garbigailua), gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiadau Cymraeg a Llydaweg gan Rhisiart Hincks yn Breizh / Llydaw. tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
  • Dau Asyn / Daou Azen (Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 25 rhif 42, Ionawr 2006.
  • Esgidiau Rhad / Botou Marc'had Mad (Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 43, Mai 2006.
  • Y Fendith / Ar Benediste (Aitaren eta ...), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 41, Awst 2005.
  • Erthygl ddwyieithog am Patxi Zubizarreta, yn Llydaweg a Chymraeg, gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 16 rhif 44, Awst 2006.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. IV. Inkesta Soziolinguistikoa Gobierno Vasco, Servicio Central de Publicaciones del Gobierno Vasco 2008, ISBN 978-84-457-2775-1

Dolenni allanol[golygu]

Wikipedia
Argraffiad Basgeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd