Portugalete

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Portugalete

Tref yn nhalaith Biskaia o Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Portugalete. Saif gerllaw dinas Bilbo, ac mae'n rhan o ardal ddinesig Gran Bilbao. Roedd y boblogaeth yn 48,386 yn 2006. Saif ar fryn rhwng aber y Ría de Bilbao ac aber y Ballonti.

Sefydlwyd Portugalete yn 1322. Ceir campws Prifysgol Gwlad y Basg yma, ac mae'n nodedig am Bont Vizcaya sy'n cysylltu Portugalete a Las Arenas, rhan o Getxo, yr enghraifft gyntaf yn y byd o Bont Gludo. Enwyd y bont fel Safle Treftadaeth y Byd yn 2006

Pont Vizcaya.