Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Euskadi)
|
|
||
![]() |
||
| Prifddinas | Vitoria (Gasteiz) | |
| Ieithoedd swyddogol | Basgeg a Sbaeneg | |
| Arwynebedd – Cyfanswm – % o Spaen |
Safle 14eg 7,234 km² 1.4% |
|
| Poblogaeth – Cyfanswm (2005) – % o Spaen – Dwysedd |
Safle 7fed 2,109, 741 5.0% 291.44/km² |
|
| ISO 3166-2 | IB | |
| Lehendakari (Arlywydd) | Juan José Ibarretxe (PNV) | |
| Eusko Jaurlaritza / Llywodraeth Euskadi | ||
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Autonomi Erkidegoa, Sbaeneg: Comunidad Autónoma del País Vasco yw'r gymuned ymreolaethol sy'n cynnwys tair talaith fwyaf gorllewinol y rhan o Wlad y Basg sydd o fewn ffiniau Sbaen. Cyfeirir ati hefyd fel Euskadi mewn Basgeg, term a ddefnyddid yn wreiddiol am y cyfan o Wlad y Basg, ond a ddefnyddir fel rheol bellach fel enw am Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg .
Mae'r diriogaeth yn fynyddig, gyda mynyddoedd y Pyreneau a'r mynyddoedd Cantabraidd. Mae llawer o ddiwydiant yno, ac mae'n un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Rhennir yr Euskal Autonomi Erkidegoa yn dair talaith:
- Araba (Álava). Prifddinas: Vitoria (Gasteiz)
- Gipuzkoa (Guipúzcoa). Prifddinas: San Sebastián (Donostia)
- Biskaia (Vizcaya). Prifddinas: Bilbao (Bilbo neu Bilbao mewn Basgeg))
Ceir mudiad ymreolaethol cryf yma. Y blaid fwyaf yn y senedd yw Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ-PNV).
[golygu] Prif ddinasoedd
- Bilbo (354,145)
- Vitoria-Gasteiz (226,490)
- Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) (183,308)
- Barakaldo (95,675)
- Getxo (83,000)
- Irun (59,557)
- Portugalete (51,066)
- Santurce (47,320)
- Basauri (45,045)
- Errenteria (38,397)
| Cymunedau ymreolaethol Sbaen | |
|---|---|
| Cymunedau Ymreolaethol | Andalucía • Aragón • Asturias • Ynysoedd Balearig • Cantabria • Castillia-La Mancha • Castilla y León • Catalonia • Comunidad Valenciana • Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg • Extremadura • Galicia • Comunidad de Madrid • Murcia • Navarra • La Rioja • Yr Ynysoedd Dedwydd • |
| Dinasoedd ymreolaethol | Ceuta • Melilla |


