Pyreneau

Oddi ar Wicipedia
Pyreneau
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPyrene Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaPenrhyn Iberia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
LleoliadSouth-West Europe Edit this on Wikidata
SirNouvelle-Aquitaine, Ocsitania, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, Aragón, Nafarroa Garaia, Catalwnia Edit this on Wikidata
GwladSbaen, Ffrainc, Andorra Edit this on Wikidata
Arwynebedd19,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,404 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaValley of Ebro, Aquitaine Basin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.67°N 1°E Edit this on Wikidata
Hyd491 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolËosen, Paleosöig, Mesosöig Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig fetamorffig Edit this on Wikidata

Mae'r Pyreneau (Sbaeneg: Pirineos; Ffrangeg: Pyrénées; Catalaneg: Pirineus; Aragoneg: Perineus; Basgeg: Pirinioak) yn fynyddoedd yn ne-orllewin Ewrop sy'n gwahanu Ffrainc a Sbaen. Maent yn ymestyn am tua 430 km (267 milltir) o Fae Biscay i Fôr y Canoldir.

Enwyd y Pyreneau ar ôl Pyrene (tân mewn Groeg), cymeriad mewn mytholeg Roeg, merch Bebryx, a reibiwyd gan Herakles. Ffôdd i'r mynyddoedd lle cafodd ei chladdu neu ei bwyta gan anifeiliaid gwyllt.

Mae'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn dilyn llinell copaon uchaf y Pyreneau am y rhan fwyaf o'i hyd; mae gwlad fechan Andorra ynghanol y Pyrenaeau. Y mynyddoedd uchaf yw Pico d'Aneto neu Pic de Néthou 3,404 m (11,168 troedfedd), Mont Posets 3,375 m a Mont Perdu neu Monte Perdido 3,355 m.

Mae'r Pyreneau yn nodedig am amrywiaeth o anifeiliaid, adar a phlanhigion, gan gynnwys rhai mathau sy'n unigryw i'r mynyddoedd yma. Yn y gaeaf mae sgïo yn boblogaidd yma, tra yn yr haf mae'r Pyreneau yn gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr a mynyddwyr. Mae tri llwybr cerdded pellter hir yn arwain ar draws y Pyreneau, GR 10 yn Ffrainc ar hyd y llethrau gogleddol, GR11 yn Sbaen ar draws y llethrau deheuol a'r Haute Randonnée Pyrénéenne (HRP) sy'n arwain ar hyd y copaon.

Pic de Bugatet yng ngwarchodle natur Néouvielle