Catalaneg

Oddi ar Wicipedia
Catalaneg (Català / Valencià)
Siaredir yn: Sbaen, Andorra, Ffrainc
Parth: Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: 7,500,000, tua 3,500,000 arall yn ei deall
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Italeg
  Romáwns
   Italo-Western
    Western
     Gallo-Iberian
      Ibero-Romance
       Catalaneg-Falencianeg-Baleareg
         Catalaneg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Sbaen (Catalwnia, Falensia, Ynysoedd Balearig), Andorra
Rheolir gan:
Codau iaith
ISO 639-1 ca
ISO 639-2 cat
ISO 639-3 cat
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Un o'r ieithoedd Romáwns yw Catalaneg (neu Catalwneg; Catalaneg: Català). Heblaw Catalwnia ei hun, siaredir yr iaith yn Andorra, yr Ynysoedd Balearig ac yn ne-orllewin Ffrainc. Mae iaith rhan o Falensia a elwir yn Falensianeg yn debyg iawn, ond mae rhywfaint o ddadl a yw'n dafodiaith Gatalaneg neu'n iaith wahanol. Cyfeirir at y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg fel y Països Catalans gan genedlaetholwyr.

Geirfa ac Ymadroddion[golygu | golygu cod]

  • Catalaneg: Català
  • helo: hola
  • os gwelwch chi'n dda: si us plau
  • diolch: gràcies; mercès
  • faint ydyw?: quant val?; quant és?
  • ie:
  • na: no
  • Dydw i ddim yn deall: No ho entenc
  • "Iechyd Da!": salut!
  • Ydych chi'n siarad Cymraeg?: Que parla el gal·lès?
  • Ydych chi'n siarad Catalaneg?: Que parla el català?

Dysgu Catalaneg[golygu | golygu cod]

Nid oes deunydd i ddysgu Catalaneg ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd, ond gall y rhain fod o ddefnydd:

  • Digui, digui... Curs de català per a estrangers. A catalan Handbook. — Alan Yates and Toni Ibarz. — Generalitat de Catalunya. Departament de Cultura, 1993. -- ISBN 84-393-2579-7.
  • Teach Yourself Catalan. — McGraw-Hill, 1993. — ISBN 0-8442-3755-8.
  • Colloquial Catalan. — Toni Ibarz ac Alexander Ibarz. — Routledge, 2005. — ISBN 0-415-23412-3.
Catalaneg yn Ewrop

Viquipèdia[golygu | golygu cod]

Logo Wikimedia Catalonia

Caiff y Wicipedia Galatlaneg ei hystyried yn un o'r wicis gorau, mewn urhyw iaith[angen ffynhonnell]. Mae dros 600,000 o erthyglau (Mehefin 2019).[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Catalaneg
yn Wiciadur.
Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Catalaneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Catalaneg Archifwyd 2007-09-26 yn y Peiriant Wayback. Mercator Cyfryngau
Learn Catalan online
Geiriadur Cymraeg-Catalaneg Archifwyd 2006-02-22 yn y Peiriant Wayback.
Geiriadur Catalaneg-Cymraeg Archifwyd 2006-02-18 yn y Peiriant Wayback.