Monte Perdido

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mont Perdu)
Monte Perdido
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolOrdesa y Monte Perdido National Park Edit this on Wikidata
SirAragón Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Baner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau42.6739°N 0.0333°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd973 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMonte Perdido Massif Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Monte Perdido (Ffrangeg: Mont Perdu, y ddau enw yn golygu "y mynydd coll") yw'r trydydd mynydd yn y Pyreneau o ran uchder. Rhennir y mynydd rhwng Sbaen a Ffrainc, ond mae'r copa yn Sbaen.

O ochr Sbaen y gellir cyrraedd y mynydd, o bentref Torla yn Aragon ar hyd Dyffryn Ordesa. Y mynydd yw canolbwynt Parc Cenedlaethol Ordesa y Monte Perdido, a ffurfiwyd yn 1918. Erbyn hyn mae'r parc yn cynnwys 156 km sgwar. Ceir mwy na 1500 rhywogaeth o flodyn, 171 o adar a 32 rhywogaeth o famal. Mae'n lle arbennig o dda i weld y Lammergeier ("Fwltur Barfog").

Gellir dringo'r mynydd o Gavarnie (Hautes-Pyrénées) ar ochr Ffrainc hefyd. Ceir y Cirque de Gavarnie, un o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yn y Pyrénées, a'i rhaeadr enwog wrth droed y mynydd ger y pentref.

Enwyd Monte Perdido yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1997, yn cael ei rhannu rhwng Sbaen a Ffrainc.