Pilota
Oddi ar Wicipedia
Gêm bêl sy'n cael ei chwarae yn bennaf yng Ngwlad y Basg yw Pilota neu Pilota Basgaidd (Basgeg: euskal pilota, Sbaeneg: pelota vasca. Gall gêm fod rhwng dau chwaraewr neu rhwng dau dîm. Maent yn taro'r bêl bob yn ail yn erbyn wal arbennig, a elwir yn "frontón". Ceir sawl math ar pilota, gyda maint y wal, y bêl a'r offeryn a ddefnyddir i daro'r bêl yn erbyn y wal yn amrywio. Mae pilota wedi lledaenu i wledydd eraill, megis Mexico, Ariannin, Uruguay, Cuba, Chile a'r Unol Daleithiau.
Ceir cofnodion am y gêm mewn testunau Ffrangeg o'r 13eg ganrif. Cynhaliwyd Pencampwriaeth y byd ers 1952:
- 1952 — Donostia: Ffrainc 8 medal aur, Sbaen 5, Ariannin 3, Mexico 1
- 1955 — Montevideo: Sbaen 5, Ariannin 3, Mexico 2, Ffrainc 1, Uruguay 1
- 1958 — Biarritz: Sbaen 5, Ffrainc 3, Ariannin 3, Mexico 3
- 1962 — Iruñea (Pamplona): Ariannin 4, Sbaen 3, Ffrainc 3, Mexico 2
- 1966 — Montevideo: Ffrainc 4, Ariannin 3, Sbaen 3, Mexico 2, Uruguay 1
- 1970 — Donostia: Sbaen 4, Ffrainc 3, Ariannin 2, Mexico 2, Uruguay 1
- 1974 — Montevideo: Ariannin 5, Ffrainc 4, Sbaen 2, Mexico 1
- 1978 — Biarritz: Sbaen 4, Ariannin 3, Ffrainc 2, Mexico 2, Uruguay 1
- 1982 — Dinas Mexico: Ffrainc 6, Ariannin 4, Sbaen 1, Mexico 1
- 1986 — Vitoria-Gasteiz: Ffrainc 5, Sbaen 3, Mexico 2, Ariannin 2
- 1990 — Cuba: Sbaen 6, Mexico 3, Ffrainc 2, Ariannin 2
- 1994 — Saint-Jean-de-Luz: Ffrainc 5, Sbaen 4, Mexico 3, Ariannin 2
- 1998 — Dinas Mexico: Sbaen 5, Mexico 3, Ariannin 3, Ffrainc 2, Cuba 1
- 2002 — Iruñea (Pamplona): Sbaen 4, Ffrainc 4, Mexico 3, Ariannin 2, Cuba 1
- 2006 — Dinas Mexico: Mexico 6, Sbaen 3, Ffrainc 3, Ariannin 2