Afon Garonne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Garonne yn Toulouse

Afon sy'n tarddu yn Sbaen ac yn llifo trwy dde-orllewin Ffrainc yw Afon Garonne (Ocitaneg, Catalaneg a Sbaeneg: Garona; Lladin Garumna). Mae'n 575 km (357 milltir) o hyd.

Tardda'r afon yn y Val d'Aran yn y Pyreneau yng ngogledd-orllewin Catalonia. Mae'n llifo i Ffrainc, lle mae'n llifo heibio dinas Toulouse cyn ymuno ag aber y Gironde ger Bordeaux, a llifo i Fae Biscay. Yr afonydd mwyaf o'r rhai sy'n llifo i mewn iddi yw Afon Ariège, Afon Tarn ac Afon Lot.

Gall llongau ddilyn y Garonne o'r môr cyn belled a phorthladd Bordeaux, ac mae'n rhan o'r "Canal des Deux Mers", sy'n cysylltu Môr y Canoldir a Bae Biscay. Gall cychod llai fynd ymhellach, hyd at Castets-en-Dorthe, lle mae canal yn arwain i Toulouse.