Afon Tarn
Oddi ar Wicipedia
Afon yn ne Ffrainc sy'n llifo i afon Garonne yw afon Tarn. Mae'r afon, sy'n 380 km o hyd, yn tarddu yn y Massif central ac yn ymuno ag afon Garonne ger Castelsarrasin. Mae'r Gorges du Tarn yn enwog.
Mae'r llednentydd yn cynnwys Afon Tarnon
Traphont Millau, a agorwyd yn Rhagfyr 2004, yw pont uchaf y byd. Mae'n cario'r draffordd A75 dros afon Tarn gerllaw Millau.
Enwyd départements Tarn a Tarn-et-Garonne ar ôl yr afon.