Sabino Arana

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arana yn 1890.

Awdur a gwleidydd Basgaidd oedd Sabino Arana Goiri, hefyd Arana ta Goiri'taŕ Sabin (26 Ionawr, 1865 - 25 Tachwedd, 1903). Ef oedd sylfaenydd Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV), ac ystyrir mai ef oedd tad cenedlaetholdeb Basgaidd.

Ganed ef yn Abando, Bilbao. Dysgodd yn iaith Fasgeg fel gŵr ieuanc, a gwnaeth lawer o waith i geisio safoni'r orgraff. Bu farw yn Sukarrieta yn 38, o ganlyniad i glwyf Addison, a gafodd tra yng ngharchar. Roedd wedi ei garcharu am yrru neges i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Theodore Roosevelt, yn ei ganmol am gynorthwyo Ciwba i ddod yn annibynnol ar Sbaen.

Dyfyniadau o waith Sabino Arana[golygu]

“Nid wyf yn mynnu dim byd imi fy hun, yr wyf yn ei mynnu er mwyn Bizkaia; byddwn yn gadael iddyn nhw dorri fy nghorn gwddf â chyllell nid unwaith ond canwaith heb ofyn hyd yn oed cof i’m enw, os gwyddwn mai atgyfodi fy mamwlad a ddilynai.” El Juramento de Larrázabal, 1893


“Elfen anhepgor i genedl y Basgiaid yw’r Euskara, hebddi hi mae ein sefydliadau yn annychmygol.” 1886


“Mae ’na wahaniaeth ethnograffig rhwng bod yn Sbaenwr a bod yn Fasgwr, mae’r hil Fasgaidd yn hollol wahanol i’r hil Sbaenaidd.” Bizkaitarra, nº 11


“Mae’r rhai sy’n adnabod y Jeswitiaid yn gwybod bod cenedlaetholdeb Basgaidd yn gwbl Gatholig.” El Correo Vasco, 1899


“Daeth gyda’r goresgyniad maketo… annuwioldeb, pob math o anfoesoldeb, cabledd, trosedd, rhydd-feddwl, anghrediniaeth, sosialaeth, anarchiaeth… ei waith ef yw hyn i gyd.”