Cenedlaetholdeb Basgaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Arrano beltza. "Yr Eryr Du", un o symbolau cenedlaetholdeb Basgaidd

Cenedlaetholdeb Basgaidd yw'r mudiad sy'n anelu at annibynniaeth i Wlad y Basg (Euskal Herria), tiriogaeth sydd ar hyn o bryd wedi ei rhannu rhwng Sbaen a Ffrainc.

Ceir gwreiddiau cenedlaetholdeb Basgaidd yn y mudiad Carlaidd, a'r deddfau a basiwyd rhwng 1839 a 1876, oedd yn dileu rhannau o'r siarteri a adnabyddir fel fuero, siarteri oedd yn rhoi hawliau arbennig i'r Basgiaid.

Yn ystod y 19eg ganrif, roedd y mudiad Fuerista yn ymgyrchu i gadw system y fueros mewn bodolaeth, yn erbyn ymdrechion llywodraeth Madrid i ganoli. Prif ideolegydd cenedlaetholdeb Basgaidd gynnar oedd Sabino Arana, sylfaenydd Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg (PNV).

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, ochrodd y Basgiaid gyda'r Weriniaeth, a chrewyd llywodraeth ymreolaethol Fasgaidd yn Hydref 1936 gyda José Antonio Aguirre (PNV) fel Lehendakari (Arlywydd). Fodd bynnag, yn 1937 bu raid i fyddin y Basgiaid ildio i fyddin Fransisco Franco. Dechreuodd cyfnod lle gwaherddid defnyddio Basgeg yn gyhoeddus. Yn 1959, ffurfiwyd grŵp milwriaethus ETA, oedd ag ideoleg Farcsaidd.

Wedi i ddemocratiaeth ddychwelyd i Sbaen yn 1978, cafodd Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi), sy'n cynnwys tair talaith orllewinol Gwlad y Basg yn Sbaen, fesur helaeth o ymreolaeth, gyda'i heddlu ei hun a'r hawl i godi ei threthi ei hun. Y PNV yw'r blaid fwyaf yn y senedd.

Mudiadau cenedlaethol Basgaidd[golygu]

Gweler hefyd[golygu]