Batasuna

Oddi ar Wicipedia
Batasuna
Enghraifft o'r canlynolBasque political party Edit this on Wikidata
IdiolegCenedlaetholdeb Basgaidd, annibyniaeth, sosialaeth, Abertzale left Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Ionawr 2013 Edit this on Wikidata
Label brodorolBatasuna Edit this on Wikidata
Rhan oAbertzale left, Basque National Liberation Movement Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHerri Batasuna Edit this on Wikidata
PencadlysPamplona Edit this on Wikidata
Enw brodorolBatasuna Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Plaid wleidyddol sy'n cefnogi cenedlaetholdeb Basgaidd yw Batasuna (Basgeg, yn golygu "Undeb").

Sefydlwyd y blaid ym mis Ebrill 1978 fel Herri Batasuna (Undeb y Bobl), fel clymblaid o genedlaetholwyr adain-chwith, yn bennaf o Euskadiko Ezkerra, yn galw am bleidlais "na" yn refferendwm y flwyddyn honno ar gyfansoddiad Sbaen. Yn Etholiad Cyffredinol 1979, enillodd 170,000 o bleidleisiau, 13% o'r bleidlais yn nhaleithiau Gwlad y Basg. Cafodd ei ganlyniad gorau yn etholiad 1990, gyda 18.33% o'r bleidlaid yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Rhwng 1998 a 2001, defnyddiai'r blaid yr enw Euskal Herritarrok (Ni ddinasyddion Basgaidd). Cyhoeddwyd Batasuna yn fudiad anghyfreithlon yn Sbaen yn 2003, oherwydd cysylltiadau'r blaid ag ETA. Gwaharddwyd Batasuna gan lywodraeth Sbaen rhag cymryd rhan yn etholiadau Basgaidd 2005, ond daeth plaid newydd, Euskal Herrietako Alderdi Komunista (EHAK, "Plaid Gomiwnyddol y Rhanbarthau Basgaidd") i'r amlwg, gan ddatgan eu bod yn mabwysiadu rhaglen wleidyddol Batasunsa.