Herriko taberna

Oddi ar Wicipedia
Herriko taberna

Herriko taberna (Cymraeg: "tafarn y werin") yw'r enw Basgeg ar gyfer tafarnau'r mudiad abertzale, sef cenedlaetholwyr adain chwith Gwlad y Basg. Fe'u gwelir ym mhob tref yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Nodweddion y tafarnau yw eu baneri cenedlaetholgar, presenoldeb siaradwyr y Fasgeg, prisiau cymharol isel y diodydd a'r bwyd, ac arwyddion o gydgefnogaeth â charcharion cenedlaetholgar Basgaidd.

Erlyniad y tafarnau[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 2002 gorchmynodd y barnwr Baltasar Garzón o'r Audiencia Nacional atafaelu 55 o'r tafarnau er mwyn codi'r 24 miliwn y dylai'r blaid Batasuna dalu am y colledion economaidd achoswyd gan ymosodiadau kale borroka, gan honni mai y blaid abertzale oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau[1] a chyhuddo'r tafarnau o ariannu'r blaid. Gosodwyd y tafarnau dan reolaeth yr awdurdodau.[2]

Ar 23 Hydref 2006 yn neuadd 61 Uwch Dribiwnlys Sbaen, gorchmynnodd y llys i'r awdurdodau fynd i mewn i'r tafarnau a rhestru eu henillion.[3][4]. Rhestrodd swyddogion y Guardia Civil a'r Ertzaintza eiddo rhyw 120 o dafarnau herriko taberna.[5]

Cafodd y rhestru ei feirniadu gan bob un o'r pleidiau abertzale, gan gynnwys y blaid Aralar, a chynhaliwyd gwrthdystiadau ar draws Gwlad y Basg.[6]

Ar 12 Rhagfyr 2007, datganodd 16 barnwr neuadd 61 yr Uwch Dribiwnlys nad oeddent yn gallu profi bod y tafarnau'n perthyn i Batasuna.[1][2][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]