Biarritz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y traeth a'r casino

Dinas yn ne-orllewin Ffrainc, yn y rhan Ffrengig o Wlad y Basg yw Biarritz (Ffrangeg: Biarritz, Basgeg: Biarritz(e) neu Miarritze). Saif yn département Pyrénées-Atlantiques a région Aquitaine. Mae tua 38 km o ddinas Donostia yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn Sbaen. Roedd yn boblogaeth yn 30,055 yn 1999.

Mae Biarritz yn enwog am ei thraethau, sy'n denu miloedd o ymwelwyr. Oherwydd poblogrwydd ymdrochi yma, tyfodd o fod yn bentref pysgota bychan yn 1843 pan ddarganfu Victor Hugo y lle, i fod yn ddinas bwysig erbyn diwedd y 19eg ganrif. Yn 1854, adeiladodd yr ymerodres Eugénie, gwraig Napoléon III, balas yma. Adeiladwyd y casino enwog yn 1901.