Casino

Oddi ar Wicipedia
Casino
Enghraifft o'r canlynolcyfleuster, adeilad digwyddiadau Edit this on Wikidata
Mathadeilad masnachol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae Strip Las Vegas yn enwog am y canran uchel o gasinos a geir yno

Yn ei ystyr fodern, cyfeiria casino at adeilad lle gellir mathau arbennig o hapchwarae. Gan amlaf, cânt eu hadeiladu ger neu'n rhan o westai, bwytai, canolfannau siopa, llongau gwyliau ac atyniadau twristaidd eraill. Mae rhai casinos yn enwog am gynnal adloniant byw, megis digrifwyr, cyngherddau a chystadlaethau chwaraeon.

Hanes y term "Casino"[golygu | golygu cod]

Casino da Póvoa, casino Portiwgeaidd a agorodd ar ddechrau'r 1930au

Yn wreiddiol, arferai'r term casino gyfeirio at fila bychan, tŷ haf neu bafiliwn a adeiladwyd am bleser, gan amlaf ar dir fila neu palazzo Eidalaidd mwy o faint. Ceir enghreifftiau o gasinos yn Villa Giulia a Villa Farnese.

Gwelir yr enghraifft gyntaf o'r gair yn cael ei ddefnyddio yn Fenis tua 1638.[1] Yn ystod y 19g, dechreuodd y term "casino" gynnwys adeiladau cyhoeddus eraill lle'r oedd gweithgareddau pleserus, gan gynnwys gamblo a chwaraeon yn digwydd. Enghraifft o'r math yma o adeilad oedd Casino Newport yn Rhode Island.[2][3]

Ni ddefnyddiwyd pob casino ar gyfer hapchwarae, Roedd Casino Copenhagen yn theatr, a oedd yn adnabyddus am y cyfarfodydd enfawr a gynhaliwyd yno yn ystod Chwyldro 1848 a arweiniodd at Denmarc yn dod yn frenhiniaeth cyfasoddiadol.[4] Tan 1937, roedd yn theatr Danaidd enwog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomassen, Professor Bjørn (2014-08-28). Liminality and the Modern: Living Through the In-Between (yn Saesneg). Ashgate Publishing, Ltd. ISBN 978-1-4094-6080-0.
  2. Thompson, William N. (2015-02-10). Gambling in America: An Encyclopedia of History, Issues, and Society, 2nd Edition (yn Saesneg). ABC-CLIO. ISBN 978-1-61069-980-8.
  3. Thompson, William N. (2015-02-10). Gambling in America: An Encyclopedia of History, Issues, and Society, 2nd Edition (yn Saesneg). ABC-CLIO. ISBN 978-1-61069-980-8.
  4. "Find materials". kb.dk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-15.