Baiona

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardal Grand Bayonne

Dinas yn ne-orllewin Ffrainc, yn y rhan Ffrengig o Wlad y Basg yw Baiona (Basgeg: Baiona, Ffrangeg: Bayonne, Gasgwyneg: Bayounès). Saif yn département Pyrénées-Atlantiques a région Aquitaine. Roedd y boblogaeth yn 40,078 yn 1999.

Saif heb fod ymhell o'r ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen, a ger cymer Afon Adour ac Afon Nive. Baiona yw porthladd pwysicaf y taleithiau Basgaidd Ffrengig. Yr hen enw oedd Lapurdum, a rhoddodd ei enw i gyn-dalaith Lapurdi.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.