Cylch Cerrig Cefn Maen Amor

Oddi ar Wicipedia
Cylch Cerrig Cefn Maen Amor
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.26°N 3.87°W Edit this on Wikidata
Map

Cylch cerrig o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy cylch cerrig Cefn Maen Amor, rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy; cyfeirnod OS: SH738735. Rhif SAM CADW yr heneb hwn ydy: CN355.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Cylch o gerrig bychan iawn, llai na throedfedd o uchder, ydy hwn. Fe'i nodir fel carnedd yn hytrach na chylch cerrig ar y map OS. Mae'n gorwedd ar darn o dir gweddol wastad rhwng Cefn Maen Amor a llethrau gogleddol Tal y Fan. Gerllaw ceir maen hir unigol a adnabyddir fel Maen Penddu. Saif y cylch ar y ffin rhwng plwyfi/cymunedau Penmaenmawr a Henryd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]