Carreg Cadfan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Carreg Cadfan
Tywyn
Lleoliad Carreg Cadfan
Arysgrif o ddechrau'r nawfed ganrif ar feddfaen yn Eglwys Sant Cadfan

Y tu mewn i Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, Gwynedd (Cyfesurynnau OS: SH5881400954) ceir croes arysgrifiedig o'r enw Carreg Cadfan (weithiau Maen Cadfan). Arni y mae'r enghraifft gynharaf, yn ôl pob tebyg, o'r iaith Gymraeg. Ni ddylid cymysgu rhyngddi a'r garreg sy'n coffáu Cadfan ap Iago yn eglwys Llangadwaladr ym Môn.

Yn wreiddiol roedd y garreg dros 2.3m o uchder, ond mae bellach yn mesur 2.18m o uchder wrth 0.25m wrth 0.2m.[1]

Dyddiad[golygu]

Fe'i dyddiwyd gan Ifor Williams i'r 8fed ganrif[2] ac adlewyrchir y farn honno yn Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.[3] Cynigir dyddiad rhwng y 7fed ganrif a'r 9fed ganrif ar Coflein, gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.[4] Mae astudiaeth ddiweddar gan Patrick Sims-Williams yn dyddio Carreg Cadfan i tua dechrau'r 9fed ganrif.[5]

Ystyr yr arysgrifiadau[golygu]

Dyma ddehongliad Patrick Sims-Williams (sydd wedi ei seilio ar waith cynharach Ifor Williams) o'r prif arysgrifau ar y pedair ochr (A, B, C, a D):[5]

A. Tengrumui cimalted gu (reic) adgan
D. ant erunc du but marciau

'Tengrumwy wraig Addian (sy'n gorwedd yma) yn agos iawn i Bud a Meirchiaw.'

B. cun ben celen
C. tricet nitanam

'Cun wraig Celyn: erys poen a cholled.'

Ar y garreg hefyd y mae’r hyn a alwodd Ifor Williams yn ddau ‘olnod’. Ar ochr C darlleniad Williams yw:

mort
cicpe
tuar

Ei ddehongliad o hyn yw ‘mortcic petuar’ (‘cofeb pedwar’).

Ar ochr A darlleniad Williams yw:

mc
Ertri

Ei ddehongliad o hynny, ar sail cymharu ag olnod C, yw ‘m(ortci)c er tri’ (‘cofeb er tri’).[6]

Cysylltiadau llenyddol[golygu]

Er ei phwysiced, cymharol ychydig o sylw a gafodd Carreg Cadfan gan lenorion Cymraeg. Un eithriad i hynny yw'r gerdd 'Cofebion Tywyn' gan Owain Owain, a gyhoeddwyd yn Y Faner ar 7 Ebrill 1972.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 20 Medi 2012
  2. Williams, Ifor (1972). The Beginnings of Welsh Poetry. University of Wales Press, tud. 25-40
  3. John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch (gol.), Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 2288
  4. Gwefan Coflein; adalwyd 20 Medi 2012
  5. 5.0 5.1 Sims-Williams, Patrick (2007). Studies on Celtic Languages before the Year 1000. CMCS, tud. 184-5
  6. Williams, Ifor (1972). The Beginnings of Welsh Poetry. University of Wales Press, tud. 37-40