Seiriol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffynnon Seiriol, Penmon
Ffynnon Seiriol, Penmon

Sant o Gymro oedd Seiriol neu Seiriol Wyn (fl. tua 550). Yn ôl yr achau traddodiadol roedd yn fab i Owain Danwyn ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig (sefydlydd traddodiadol teyrnas Gwynedd). Os gwir hynny buasai'n gefnder i'r brenin Maelgwn Gwynedd (fl. hanner cyntaf y 6ed ganrif).[1]

Hanes a thraddodiad[golygu]

Fel yn achos nifer o'r seintiau cynnar, dywedir ei fod yn ddisgybl i Sant Illtud ac wedi astudio yn ysgol enwog y sant hwnnw yn Llanilltud Fawr. Ar ôl cyfnod yn y de daeth i ogledd Cymru a sefydlu clas (mynachlog gynnar) ym Mhenmon ar safle Priordy Penmon, ar ben de-ddwyreiniol Ynys Môn. Ceir 'Capel Seiriol' a 'Ffynnon Seiriol' yno o hyd. Roedd ganddo gell a mynachlog ar Ynys Seiriol hefyd, gyferbyn â Phenmon lle rhed Afon Menai i Fae Conwy.[2]

Mae traddodiad yn ei gysylltu â Phenmaenmawr hefyd. Dywedir bof ganddo gapel ar y Penmaen-mawr, y mynydd mawr rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan. 'Clipyn Seiriol' oedd enw'r llecyn. Coffheir Seiriol ym Mhenmaenmawr yn enw un o eglwysi'r dref heddiw (sefydliad diweddar yw'r eglwys ei hun).[3]

Mae hen chwedl yn cysylltu enw Maelgwn Gwynedd â Seiriol a'i gyfoeswr Cybi (nawddsant Caergybi ar Fôn). Rhoddodd Maelgwn dir i'r ddau i sefydlu eu mynachlogydd. Ystyrid eglwysi Penmon a Chaergybi ymhlith y pwysicaf yn y gogledd am ganrifoedd.[4]

Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones[5], arferai 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach yng nghanolbarth yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18fed ganrif. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn!

Cedwir ei ŵyl ar 1 Chwefror.[6]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', Gwŷr Môn (1979).
  2. A.D. Carr, 'Seiriol a Chybi' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
  3. A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', Gwŷr Môn (1979).
  4. A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', Gwŷr Môn (1979).
  5. John Morris-Jones, Caniadau (Rhydychen, 1907).
  6. A. D. Carr, 'Seiriol a Chybi', Gwŷr Môn (1979).