William Milton Aubrey (Anarawd)

Oddi ar Wicipedia
William Milton Aubrey
FfugenwAnarawd Edit this on Wikidata
Ganwyd1861 Edit this on Wikidata
Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
Bu farw1889 Edit this on Wikidata
Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a hynafiaethydd o Gymro oedd William Milton Aubrey (186126 Chwefror 1889), a adnabyddid wrth ei enw barddol Anarawd. Roedd yn frodor o Sir Fôn.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed William ym mhlwyf Llannerch-y-medd, Sir Fôn yn 1861. Roedd ei fam yn ferch i'r bardd Gwalchmai a'i dad oedd y gweinidog 'Meilir Môn'. Cafodd addysg dda gan ei rieni a dywedir ei fod yn medru darllen Cymraeg a Saesneg pan yn bum mlwydd oed.[1]

Bu am bedair blynedd yn is-athro yn Ysgol Frutanaidd Llannerchymedd. Dyma'r cyfnod pan ddechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr lleol. Ar ôl cyfnod o addysg dan diwtor lleol pasiodd arholiad i fynd i Goleg Spring Hill, Birmingham. Symudodd oddi yno i Goleg y Bala. Boddodd yn Llyn Tegid ar y 26ain o Chwefror, 1889. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llannerch-y-medd.[1]

Bardd a hynafiaethydd[golygu | golygu cod]

Er iddo farw yn ifanc, cafodd gryn llwyddiant fel bardd eisteddfodol a disgwylid llawer mwy yn y dyfodol gan ei gyfoeswyr. Enillodd wobr am ei awdl-bryddest "Y Wasg" yn Eisteddfod Chicago, 1880. Ef oedd awdur geiriau y gân boblogaidd (yn ei dydd) "Llwybr y Wyddfa".[1]

Fel hynafiaethydd ymddiddorai'n bennaf yn hanes Môn a Gwynedd. Cyfrannodd draethodau i'r cylchgronau Cymraeg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 R. Môn Williams, Enwogion Môn 1850-1912 (Bangor, 1913).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]