Dún Laoghaire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Porthladd Dún Laoghaire

Mae Dún Laoghaire yn dref ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, tua 12 km i'r de o'r brifddinas, Dulyn. Mae hi'n rhan o sir hanesyddol Swydd Dulyn. Erbyn hyn mae'n ganolfan weinyddol i sir weinyddol newydd Dún Laoghaire-Ráth an Dúin (Dun Laoghaire-Rathdown).

Mae'r enw yn golygu "caer Laoghaire". 'Roedd Laoghaire yn ard-rí (brenin uchel) ar Iwerddon yn y bumed ganrif. Ef oedd wedi caniatáu i Sant Padrig deithio drwy'r wlad a lledu Cristionogaeth.

Yn y 19eg ganrif, pan oedd Lloegr yn rheoli Iwerddon, "Kingstown" oedd enw Dún Laoghaire yn Saesneg, ond ni ddefnyddir yr enw hwnnw ers i'r Weriniaeth ennill hunanlywodraeth. Mae Dún Laoghaire yn un o'r ychydig o drefi yn Iwerddon y defnyddir dim ond ei henw Gwyddeleg ar ei chyfer.

O'i phorthladd prysur mae llongau fferi yn hwylio i Gaergybi i gysylltu Iwerddon â Chymru.

Flag of Ireland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.