Goleudy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Goleudy

Yn gymorth i forwyr llywio eu llongau ar y môr, mae goleudy yn adeilad ar ffurf tŵr neu fframwaith sy'n anfon allan goleuni gan ddefnyddio system o lusernau a lensys, neu, yn y gorffennol, dân. Yn ogystal maent yn gallu fod o gymorth i awyrennau bychain gyda'r nos. Cyn dechrau codi goleudai arferid cynnau bonllwyth ar ben bryn neu glogwyn arfordirol.

Erbyn heddiw mae nifer y goleudai yn y byd wedi gostwng i tua 1,500, o ganlyniad i'r twf mewn cymorth llywio modern fel radar a systemau geo-sat. Defnyddir goleudai i nodi arfordiroedd peryglus, creigiau morwrol, a mynedfeydd diogel i borthladdoedd.

Y goleudy enwocaf yn hanes y byd efallai oedd Pharos Alecsandria, a godwyd ar ynys Pharos, ger Alecsandria, yn yr Hen Aifft. O enw'r goleudy hwnnw y daw'r gair am 'oleudy' mewn sawl iaith Ewropeaidd, e.e. Ffrangeg (phare), Eidaleg a Sbaeneg (faro), Portiwgaleg (farol), Romaneg (far), Bwlgareg a Rwseg (фар), a Groeg (φάρος). 'Pharoleg' yw'r term am astudio goleudai.

Yr Hen Oleudy ar Ynys Llanddwyn.

Ceir goleudai ar nifer o ynysoedd a chlogwynni yng Nghymru, e.e. Ynys Enlli ac Ynys Bŷr.

Oriel[golygu]