Bwlgareg

Oddi ar Wicipedia
Bwlgareg (български език bǎlgarski ezik)
Siaredir yn: Bwlgaria
Parth: De-ddwyrain Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: 9.1 miliwn (Ethnologue)
Safle yn ôl nifer siaradwyr: {{{safle}}}
Achrestr ieithyddol: Ieithoedd Indo-Ewropeaidd

 Balto-Slafeg
  Slafeg
   Deheuol

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Bwlgaria
Rheolir gan: Institiwt yr Iaith Fwlgareg, Academi Gwyddorau Bwlgaria (Институт за български език)
Codau iaith
ISO 639-1 bg
ISO 639-2 bul
ISO 639-3 bul
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith Slafeg Ddeheuol yw Bwlgareg. Heddiw iaith swyddogol Bwlgaria yw hi, ac, yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 6,697,158 o bobl yn siarad Bwlgareg fel mamiaith ym Mwlgaria (84.5% o'r boblogaeth). Ceir lleiafrifoedd Bwlgareg eu hiaith yn Wcrain, Gwlad Groeg, Twrci ac yn gyffredinol dros wledydd y Balcanau. Mae cyfanswm o 8–9 miliwn o bobl yn ei siarad. Ysgrifennir Bwlgareg â'r wyddor Gyrilig. Mae cyfnodion yr iaith yn dyddio i'r 9g, pan gynhyrchiwyd nifer o lawysgrifau ym Mwlgaria yn Hen Slafoneg Eglwysig, iaith lenyddol gyntaf y Slafiaid, wedi'i seilio ar dafodieithoedd Slafeg Macedonia a Bwlgaria. Parhaodd traddodiad llenyddol llewyrchus yn yr iaith yn y cyfnod Bwlgareg Canol (12g – 15g), ond dirywiodd ei statws yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid. Crëwyd iaith safonol newydd yn y 14g fel rhan o ddiwygiad cenedlaethol Bwlgaria. Mae'r iaith gyfoes yn wahanol iawn i Hen Slafoneg Eglwysig. Mae wedi colli'r system gymhleth o gyflyrau enwol oedd gan yr iaith honno, ac wedi profi nifer o gyfnewidiadau fel rhan o ardal ieithyddol y Balcanau sydd wedi dod â hi'n nes yn ei strwythur at ieithoedd o grwpiau eraill megis Groeg, Albaneg, Rwmaneg a Thyrceg.

Orgraff[golygu | golygu cod]

Defnyddir amrywiaeth ar yr wyddor Gyrilig i ysgrifennu Bwlgareg. Yr wyddor gyfoes (a gwerthoedd IPA y llythrennau) yw:

А а
/a/
Б б
/b/
В в
/v/
Г г
/g/
Д д
/d/
Е е
/ɛ/
Ж ж
/ʒ/
З з
/z/
И и
/i/
Й й
/j/
К к
/k/
Л л
/l/
М м
/m/
Н н
/n/
О о
/ɔ/
П п
/p/
Р р
/r/
С с
/s/
Т т
/t/
У у
/u/
Ф ф
/f/
Х х
/x/
Ц ц
/ʦ/
Ч ч
/tʃ/
Ш ш
/ʃ/
Щ щ
/ʃt/
Ъ ъ
/ɤ̞/, /ə/
Ь ь
/◌ʲ/
Ю ю
/ju/
Я я
/ja/

Cyn diwygiad orgraffol 1945, defnyddid dwy lythyren ychwanegol, yat (Ѣ ѣ) /æː/ a yus fawr (Ѫ ѫ) /ɔ̃/. Defnyddid yus fawr i gyfleu'r un sain, schwa /ə/, â Ъ ъ. Defnyddir yat i gyfleu /a/ neu /e/ yn ôl ei safle yn y gair.

Hen orgraffOrgraff newyddYnganiadYstyr
бѣлъбял/bjal/'gwyn (gwrywaidd)'
бѣлибели/beli/'gwynion (lluosog)'
зѫбъзъб/zɤ̞b/'dant'

Seineg a ffonoleg[golygu | golygu cod]

Morffoleg[golygu | golygu cod]

Cystrawen[golygu | golygu cod]

Geirfa[golygu | golygu cod]

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Bwlgareg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwlgaria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Bwlgareg
yn Wiciadur.