Hen Slafoneg Eglwysig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen Slafoneg Eglwysig (словѣньскъ ѩзыкъ slověnĭskŭ językŭ)
Siaredir yn: Bwlgaria, Macedonia ac fel iaith eglwysig yng ngwledydd Slafig uniongred eraill
Parth: Dwyrain Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: wedi marw; defnyddir fel iaith eglwysig yn unig
Safle yn ôl nifer siaradwyr: dim siaradwyr iaith gyntaf
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Balto-Slafeg
  Slafeg
   Ddeheuol

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: yr eglwysi Slafig uniongred
Rheolir gan: neb
Codau iaith
ISO 639-1 cu
ISO 639-2 chu
ISO 639-3 chu
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith ysgrifenedig gyntaf y Slafiaid yw Hen Slafoneg Eglwysig neu Hen Slafoneg (hefyd: Hen Fwlgareg, weithiau Hen Facedoneg). Iaith lenyddol yw hi a ddatblygodd ar sail tafodiaith Slafeg Thessaloniki y cenhadwyr Cristnogol, Sant Cyril a Sant Methodius. Defnyddiasant yr iaith ar gyfer eu cyfeithiadau o'r Efengylau a thestunau crefyddol eraill yn ystod eu cenhadaeth ym Morafia ac wedyn yn y tiroedd Slafig deheuol. Ar ôl y cyfnod cynnar, defnyddiwyd fel iaith eglwysig yn yr holl wledydd Slafig uniongred, a datblygodd ar amrywiol ffurfiau yn y gwahanol wledydd gan arwain at fersiynau cenedlaethol gwahanol o Slafoneg Egwlysig. Fe'i defnyddir o hyd fel iaith litwrgi yr eglwysi Slafig uniongred.

Y cenadaethau[golygu]

Er bod rhai cyfeiriadau amwys at ysgrifennu iaith Slafeg cyn canol y nawfed ganrif, does dim tystiolaeth bendant i iaith Slafeg gael ei hysgrifennu cyn cenadaethau Sant Cyril a Sant Methodiws i Morafia yng nghanol yr 860au. Aethant yno ar ôl ymbil gan Dywysog Rastislav o Morafia Fawr i'r Ymerawdwr Mihangel III i anfon cenhadon i bregethu i'w bobl. O 863 ymlaen dechreuodd y seintiau a'u disgyblion gyfieithu'r Efengylau, y Salmau a darnau arall o'r Beibl i'w Hen Slafoneg. Gyrrwyd y cenhadon allan o Morafia tua 885 yn sgîl ymryson â chlerigwyr Catholig Almaenig, ond aethant ymlaen â'u gwaith yn y tiroedd Slafig deheuol.

Testunau'r 'canon' Hen Slafoneg Eglwysig[golygu]

Yn ystod y cenadaethau, cyfieithodd Cyril a Methodiws a'u disgyblion yr Efengylau a nifer o destunau crefyddol eraill i'r Hen Slafoneg o tua 863 ymlaen. Mae'r cyfieithiadau hyn ar glawr heddiw mewn nifer o lawysgrifau diweddarach wedi'u copïo mewn gwahanol wledydd. Mae iaith y testunau hyn yn adlewyrchu nodweddion ieithoedd Slafeg Deheuol gyda chymysgedd o nodweddion yr ieithoedd Slafeg Gorllewinol o Morafia mewn rhai achosion. Maen nhw hefyd yn amrywio i ryw raddau yn ôl iaith yr ardall lle cawsant eu copïo wedyn. Roedd y tafodieithoedd Slafeg yn debygach i'w gilydd yr adeg hynny nag y maen nhw heddiw. Mae'n debyg felly i Cyril a Methodiws ddefnyddio eu tafodiaith Slafeg Ddeheuol fel sail i'r cyfieithiadau gan ei haddasu rywfaint i'r sefyllfa leol. Ysgrifennwyd y testunau cynharach yn yr wyddor Glagolitig, system ysgrifennu a ddyfeisiwyd gan Cyril a Methodiws. Yn gyffredinol, mae'r testunau hwyrach yn tueddu i ddefnyddio'r wyddor Gyrilig.

Dyma'r brif lawysgrifau yn y 'canon' Hen Slafoneg Eglwysig:

  • Codex Assemanianus (ail hanner y 10fed ganrif neu hanner cynta'r 11eg, Macedonia): llithlyfr o'r Efengylau a nodiadau ar y calendr, wedi'i ysgrifennu yn yr wyddor Glagolitig;
  • Savvina Kniga (11eg ganrif, Bwlgaria): llithlyfr anghyflawn o'r Efengylau (Cyrilig);
  • Codex Zographensis (diwedd y 10fed ganrif neu ddechrau'r 11eg, Macedonia): Efengylau (Tetraevangelia) (Glagolitig);
  • Codex Marianus (dechrau'r 11eg ganrif, Macedonia): Efengylau (Tetraevangelia) (Cyrilig);
  • Psalterium Sinaiticum (11eg ganrif, Macedonia)
  • Euchologium Sinaiticum (11eg ganrif)
  • Codex Suprasliensis (11eg ganrif, Bwlgaria)
  • Glagolita Clozianus (11eg ganrif, Macedonia)
  • Dalennau Kiev (10eg ganrif): y testun cynharaf mewn unrhyw iaith Slafeg a'r testun Hen Slafoneg Eglwysig sy'n dangos y maint mwyaf o nodweddion Morafaidd.

Enw'r Hen Slafoneg Eglwysig[golygu]

Mae'r testunau ei hun yn galw'r iaith yn 'Slafoneg' yn unig. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth yn glir bod y llawysgrifau yn cynnwys nifer o nodweddion na cheid ond yn yr ieithoedd Slafeg deheuol, ac, yn arbennig, mewn Bwlgareg. Felly roedd rhai ysgolheigion yn y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif yn galw'r iaith yn 'Hen Fwlgareg'. Ond mae'r term hwn yn awgrymu bod Bwlgareg Modern wedi datblygu'n uniongyrchol o'r iaith honno, ac hefyd mae'n anwybyddu'r ffaith bod yr iaith yn cynnwys elfennau nifer o dafodieithoedd Slafeg Deheuol a gorllewinol yn ôl tarddiad y llawysgrifau, ac i'r iaith gael ei defnyddio y tu fewn ac y tu allan o Fwlgaria ei hun. Heddiw dim ond ym Mwlgaria y defnyddir y term 'Hen Fwlgareg'. Yn y gorllewin, y term arferol yw 'Hen Slafoneg Eglwysig', ac yn nwyrain Ewrop 'Hen Slafoneg'.