Sant Cyril

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eicon o Cyril (ar y dde) a Methodius, Bwcarest, 19eg ganrif. Mae Cyril yn dal sgrôl yn dangos yr wyddor Gyrilig yn ei law.

Mynach, athronydd ac ieithydd Bysantaidd oedd Cyril (Groeg Κύριλλος/Kyrillos, Slafoneg Eglwysig Кирилъ; * c. 826/827 yn Thessalonica; † 14 Chwefror 869 yn Rhufain). Gyda'i frawd hŷn Methodius mae'n enwog am efengylu'r Slafiaid ac am ddyfeisio'r wyddor Glagolitig. Yn ystod ei fywyd, ei enw oedd Cystennin (Konstantinos). Cymerodd yr enw Cyril yn fuan cyn ei farwolaeth.

Bywyd cynnar[golygu]

Ganed Cyril i deulu cefnog yn Thessaloniki (Gogledd Gwlad Groeg heddiw). Swyddog milwrol (drungarios) oedd ei dad. Yn fwy na thebyg, tyfodd yn ddwyieithog (yn Roeg ac yn Slafoneg) o'i blentyndod cynnar. Er fod Thessaloniki eu hun yn Roeg ei iaith, roedd trigolion y cefn gwlad o'i chwmpas yn siarad Slafoneg ar y pryd. Daeth ei ddawn dysgu yn amlwg o oedran ifanc ac fe'i haddysgwyd yng Nghaergystennin o dan rhai o ysgolheigion llewyrchus ei oes. Dechreuodd ar yrfa academaidd, gan dderbyn penodiad fel athro athronyddiaeth ym Mhrifysgol Caergystennin tua 850. Fodd fynnag, yn 856, rhoddodd y gorau i'w swydd ddysgu er mwyn ymuno â'i frawd Methodius, oedd wedi dod yn fynach mewn mynachlog ar Fynydd Olympus.

Y genhadaeth at y Khazariaid[golygu]

Yn fuan ar ôl cyrraedd yno, gyrrwyd Cyril a'i frawd gan Ymerawdr Mihangel III at y Khazariaid, pobl Dwrcaidd oedd yn trigo ar lannau Afon Volga isaf ac Afon Don. Roedd kagan y Khazariaid wedi gwahodd gynrycholion y tair crefydd fawr, Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam, i bregethu ato er mwyn iddo benderfynu pa un ddylai fod yn grefydd swyddogol. Cyril oedd dewis yr ymerawdr i fod yn bennaeth ar y genhadaeth. Gorfodwyd Cyril i esbonio, amddifynu a chyfiawnhau credoau Cristnogol yn fanwl mewn nifer o gyfarfodydd â'r kagan. Er i'r Khazariaid benderfynu yn y pendraw dderbyn Iddewiaeth fel eu crefydd swyddogol, ysgrifennod kagan y Khazariaid at yr ymherawdr gan foliannu dysg a sancteiddrwydd Cyril: 'Arglwydd, gyrasoch atom ddyn sydd wedi dangos i ni, mewn gair a gweithredoedd, bod y grefydd Gristnogol yn sanctaidd' (Vita Constantini).

Y genhadaeth at y Slafiaid[golygu]

Yn 860, daeth cais arall am genhadau at yr ymeradwr, y tro hwn gan Rostislav, Dug Morafia. Yn ôl ei ddeisyfiad, roedd Slafiaid Morafia wedi derbyn yr efengyl gan Eidalwyr, Almaenwyr a Groegwyr, ond roedd angen arnynt ragor o addysg, yn enwedig yn ei iaith eu hunain: 'Er bod ein pobl wedi gwrthod paganiaeth a'u bod yn cadw'r ddeddf Gristnogol, nid oes gennym athro a fyddai'n esbonio i ni yn ein iaith ein hunain y gwir ffydd Gristnogol, fel y gallai gwelydd eraill sy'n edrych aton ni ein hefelychu' (Vita Constantini). Dewisodd Mihangel Cyril a Methodius i fynd, a Cyril yn arwain y genhadaeth. Yn ôl ei fuchedd, aeth ati i ddyfeisio llythrennau gwyddor Slafonaidd a chyfieithu'r Efengylau. Roedd y tafodieithoedd Slafonaidd yn dal yn agos iawn at ei gilydd bryd hynny, a byddai cyfieithiadau Cyril a Methodius a'i ddisgyblion yn ddealladwy ym Morafia. Cyrhaeddodd Cyril a Methodius Morafia yn 862/863. Roedd eu cenhadaeth yn anodd ac yn ddadleuol o'r dechrau. Lleihau dylanwad clerigwyr Bafaria oedd un o fwriadau cais Rostislav, a bu rhaid i Cyril a Methodius wynebu eu gwrthwynebiad nhw. Roedden nhw'n anfodlon hefyd nad oedd y brodyr yn dilyn y traddodiad o ddefnyddio'r tair iaith sanctaidd (Hebraeg, Groeg a Lladin) yn unig ar gyfer y litwrgi. Yn sgîl yr anawsterau hyn, gadawodd Cyril a'i frawd Morafia ar ôl deugain mis, gan fynd i Mosaburg (Blatograd), prifddinas Pannonia, lle cawsant well groeso a mwy o lwyddiant gan Ddug Kocel.

Teithiau i Rufain a marwolaeth[golygu]

Ym 867 gwysiwyd y brodyr i ymddangos gerbron y Pab yn Rhufain er mwyn ateb cyhuddiadau roedd y clerigwyr Bafaraidd wedi'u gwneud yn eu herbyn ynglyn â defnyddio'r iaith Slafoneg at bwrpasau crefyddol. Erbyn iddynt gyrraedd Rhufain, roedd Pab Niclas I wedi marw, felly Hadrian II a'u croesawodd nhw. Gweithiodd hyn er lles y brodyr, gan fod Hadrian yn dilyn polisi mwy cyfeillgar tuag at Eglwys y Dwyrain. Yn ystod yr arhosfa yn Rhufain cawsant fendith Pab Hadrian i ddefnyddio Slafoneg, gan eu caniatáu i ddathlu gwasanaethau yn Slafoneg mewn nifer o eglwysi Rhufain. Rhoddasant greiriau Sant Clement yng ngofal y Pab, ac ordeiniwyd nifer o'u disgyblion gan Esgob Formosus ac Esgob Gauderich. Bu farw Cyril yno ar 14 Chwefror 869, yn 42 oed. Roedd Cyril wedi gofyn i'w gorff gael ei ddychwelyd i'w fynachlog a'i gladdu yno, ond doedd clerigwyr Rhufain ddim yn fodlon gadael corff dyn mor ddisglair allan o'r ddinas. Felly gorchmynodd y Pab ei gladdu yn basilica San Pedr. Ymbiliodd Methodius am gael ei gladdu yn Eglwys Sant Clement, hynny yw, eglwys y sant yr oedd Cyril wedi dwyn ei greiriau i Rufain, ac felly y bu.

Cyfraniad Cyril at ddiwylliant y Slafiaid[golygu]

Dyfeisiodd Cyril a'i frawd yr wyddor a ddefnydid ar gyfer ysgrifeniadau y cenadaethau cynnar at y Slafiaid ym Morafia a Panonnia. Am gyfnod hir, credid mai'r wyddor Gyrilig oedd hyn. Ond defnyddid dwy wyddor i ysgrifennu llawysgrifau cynharaf Slafoneg, yr wyddor Glagolitig a'r wyddor Gyrilig. Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn credu heddiw mai'r wyddor Glagolitig a ddefnyddid gyntaf, ac a ddyfeisiwyd felly gan Gyril a Methodius.

Dathlir Gŵyl Sant Cyril ar 14 Chwefror, a Gŵyl Cyril a Methodius yn yr Eglwys Uniongred ar 11 Mai. Mae 24 Mai yn ŵyl gyhoeddus ym Mwlgaria (Gŵyl Addysg a Diwylliant Bwlgareg a Llythrennedd Slafonaidd) yn rhannol i ddathlu lle Sant Cyril yn natblygiad cynnar diwylliant y wlad. Cynhelir dathliadau tebyg ar yr un diwrnod ym Macedonia ac yn Rwsia, ac ar 5 Gorffennaf yn y Weriniaeth Tsiec ac yn Slofacia.