Gweriniaeth Macedonia
|
|||||
| Arwyddair: Слобода или смрт Sloboda ili smrt (Macedoneg: 'Rhyddid neu angau') |
|||||
| Anthem: Денес над Македонија Denes nad Makedonija (Macedoneg: 'Heddiw dros Facedonia') |
|||||
| Prifddinas | Skopje | ||||
| Dinas fwyaf | Skopje | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Macedoneg | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth unedol | ||||
| Gjorge Ivanov Nikola Gruevski |
|||||
| Datganiad annibyniaeth oddiwrth Iwgoslafia |
8 Medi 1991 | ||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
25,333 km² (149) 1.9% |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
2,034,000 (143) 80/km² (110) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2004 $14,914 biliwn (121) $7,237 (80) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.797 (59) – canolig | ||||
| Arian cyfred | denar (MKD) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .mk | ||||
| Côd ffôn | +389 |
||||
Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gweriniaeth Macedonia (neu Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia). Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaniaid (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw Macedoneg.
Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Disgwylir hefyd iddi geisio am ymaelodi â NATO.
Enw'r wlad [golygu]
Ar hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg: Македонија/Makedonija) yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw Gweriniaeth Macedonia (Macedoneg: Република Македониjа/Republika Makedonija). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth Gwlad Groeg, gan fod gan wlad Groeg ranbarth o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno i ddefnyddio'r enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Macedoneg: Поранешна Југословенска Република Македонија/Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija) fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Mae trafodaethau rhwng llywodraethau Macedonia a Gwlad Groeg yn parháu o dan nawdd y Cenhedloedd Unedig i ddatrys y ddadl ynglŷn ag enw swyddogol y wlad.
Oriel [golygu]
-
Dinas Ohrid a Llyn Ohrid.
-
Mynachdy Eleusa, Strumica.
-
Llyn Dojran yn Dojran.
-
Y dref faen Kuklica.
-
Llyn Tikveš ger Kavadarci.
