Tesco
Mae Tesco Ccc yn gwmni rhyngwladol ac yn gadwyn o archfarchnadoedd sy'n gwerthu bwyd, dillad a nwyddau cyffredin. Tesco yw'r adwerthwr trydydd mwyaf yn y byd a'r mwyaf ym Mhrydain. Mae Tesco yn rheoli 30% o werthiant bwyd ym Mhrydain, sy'n gyfartal i ganran ei gystadleuwyr mwyaf, ASDA a Sainsbury's, wedi eu cyfuno. Yn 2007 datganodd y cwmni fuddion o £2.55 biliwn ar gyfer y flwyddyn honno.
Yn wreiddiol, arbenigo mewn gwerthu bwyd yn unig roedd Tesco, ond erbyn hyn maent wedi ehangu i werthu dillad rhad, nwyddau trydanol, gwasanaethau ariannol, gwerthu a rhentu DVDs a CDau, lawrlwytho cerddoriaeth, cyflenwi cysylltiad i'r we, cyflenwi gwasanaeth ffôn, yswiriant iechyd a deintyddol a meddalwedd rad. Maent yn bresennol yn camu i'r farchnad eiddo gyda gwefan o'r enw Tesco Property Market.