Thomas Telford

Oddi ar Wicipedia
Thomas Telford
Ganwyd9 Awst 1757 Edit this on Wikidata
Glendinning Edit this on Wikidata
Bu farw2 Medi 1834 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, peiriannydd sifil, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPont y Borth Edit this on Wikidata
Gwobr/auScottish Engineering Hall of Fame Edit this on Wikidata
Portread o Thomas Telford gan John Roffe

Peirianydd o'r Alban oedd Thomas Telford (9 Awst 17572 Medi 1834), a anwyd yn Eskdale.

Yn ddyn ifanc gweithiodd fel saer maen. Yn 1783 symudodd i Lundain. Yn 1787 llwyddodd i gael swydd yn arolygydd y ffyrdd yn Swydd Amwythig. Mewn canlyniad fe'i penodwyd yn beirianydd ar gyfer Camlas Ellesmere.

Aeth i'r Alban ar ran y llywodraeth i baratoi adroddiad ar gyflwr ffyrdd yr Alban a gweithiodd wedyn ar Camlas Caledonia rhwng Inbhir Nis ac An Gearasdan.

Yng Nghymru bu'n beirianydd ar waith yr A5 rhwng y gororau a Chaergybi, gan gynnwys adran Nant Ffrancon, ac ar rannau o ffordd yr arfordir (yr A55 heddiw), er enghraifft ym Mhenmaenmawr (Penmaen-mawr a Phenmaen-bach) ac yn cynnwys Pont Grog Conwy. Ei waith mwyaf enwog yw'r bont grog a gododd dros Afon Menai yn 1826, sef Pont y Borth.

Bu farw Telford yn 1834 a chafodd ei gladdu yn Abaty San Steffan.


Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.