Mynydd Twr
| Holyhead Mountain (yn Ynys Gybi (Ynys Môn)) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Mynydd Tŵr o gyfeiriad Caergybi |
| Uchder (m) | 220 |
| Uchder (tr) | 722 |
| Amlygrwydd (m) | 220 |
| Lleoliad | Ynys Môn |
| Map topograffig | Landranger 114; Explorer 262 |
| Cyfesurynnau OS | SH218829 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) |
Mynydd Twr, pwynt uchaf Ynys Gybi, yw'r bryn uchaf ym Môn. Mae'n gorwedd tua 3 km i'r gorllewin o dref Caergybi, gan godi'n syth o Fôr Iwerddon ar ddwy ochr. Ar ei ochr ddwyreiniol ceir tŵr gwylio, neu oleudy, sy'n perthyn i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn ogystal ceir grŵp o gytiau, Cytiau Tŷ Mawr, wedi eu hamgylchynu gan fur sy'n dyddio i Oes yr Haearn. Chwarelwyd y cerrig ar gyfer morglawdd Caergybi o'r mynydd yn ogystal; cyfeiriad grid SH218829. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 0metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Mynydd (y) Tŵr" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond camgymeriad yw hynny. Mae'r gair twr yma yn golygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pentwr") ac yn cyfeirio at y twr o gerrig neu garnau ar ben y mynydd.[1] Holyhead Mountain yw'r enw yn Saesneg.
Cynnwys |
Caer y Twr [golygu]
Ar ben Mynydd Twr ceir bryngaer neu bentref caerog a elwir yn Gaer y Twr. Mae'n dyddio i tua'r 2il ganrif OC ac yn amgáu tua 17 acer o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir caeau bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cerddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.[2]
Hamdden [golygu]
Mae Mynydd Twr yn denu nifer o ymwelwyr, yn arbennig yn yr haf. Tuag 1 filltir i'r gorllewin ceir goleudy Ynys Lawd a daw nifer o bobl i weld yr adar sy'n nythu ar hyd y clogwyni rhwng Ynys Lawd a Mynydd Tŵr.
Y copa [golygu]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 220m (722tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Cyngor Gwlad Môn, 1972).
- ↑ Katherine Watson, North Wales yn y gyfres 'Regional Archaeologies' (Cory, Adams & Mackay, 1965).
- ↑ “Database of British and Irish hills”