Caer y Twr
53°19′N 4°40′E / 53.31°N -4.67°W{{#coordinates:}}: invalid longitude
Bryngaer neu bentref caerog yw Caer y Twr wedi'i lenoli ar ben Mynydd Twr sef pwynt uchaf Ynys Gybi a'r bryn uchaf ym Môn. Lleoliad cyfeiriad grid SH218829.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN019.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Mae'n dyddio i tua'r 2il ganrif OC ac yn amgáu tua 6.87 hectar (17 erw) o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir caeau bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cherddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.[2]
Gweler hefyd[golygu]
Cyfeiriadaeth[golygu]
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ Katherine Watson, North Wales yn y gyfres 'Regional Archaeologies' (Cory, Adams & Mackay, 1965).