Llyn Twr Glas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyn Twrglas)
Llyn Twr Glas
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrawsfynydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,750 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.872665°N 3.987225°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Twr Glas (neu Twrglas[1], Llyn Twr-glas a Llyn Tŵr Glas[2]). Fe'i lleolir yn ardal Ardudwy ym Meirionnydd, tua hanner ffordd rhwng Trawsfynydd i'r dwyrain a Harlech i'r gorllewin.

Llyn Twrglas

Saif y llyn bychan hwn 1,750 troedfedd[2] i fyny yn agos i gopa Craig Wion yn y Rhinogydd, rhwng Rhinog Fawr a Moel Ysgyfarnogod yn rhan ogleddol y mynyddoedd hynny.[1]

Mae'n llyn anghysbell iawn, mewn pant creigiog ger copa Craig Wion. Ceir llyn bychan arall, sef Llyn Pryfed, tua hanner milltir i'r de.

Does dim pysgod yn Llyn Twrglas ond ceir brithyll yn Llyn Pryfed gerllaw.[2]

Enw[golygu | golygu cod]

Ceir sawl ffurf ar yr enw (gweler uchod). Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Llyn (y) Tŵr Glas" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond gallai'r gair twr yma olygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pentwr") ac yn cyfeirio at dwr o gerrig ger y llyn. Ceir enghraifft arall o'r gair 'twr' (sef 'pentwr') yn enw Mynydd Twr, ger Caergybi.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 2.2 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  3. Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Cyngor Gwlad Môn, 1972).