Comisiynydd y Gymraeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo 2014

Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar 1 Ebrill 2012 pan benodwyd Meri Huws yn Gomisiynydd cyntaf Cymru. Mae gwaith y comisiynydd yn wleidyddol annibynnol.[1]

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg.[2] Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Credir y bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl gwefan y Comisiynydd, mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd, a hynny yw,

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Swyddogaeth y Comisiynydd[golygu]

Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol er mwyn:

  • hybu defnyddio’r Gymraeg
  • hwyluso defnyddio’r Gymraeg
  • gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae hynny’n cynnwys hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac annog arferion gorau o ran defnyddio’r Gymraeg gan bobl sy’n delio â phersonau eraill, neu sy’n darparu gwasanaethau i bersonau eraill. Mae maes ei gorchwyl hefyd yn cynnwys materion cyfreithiol, llunio a chyhoeddi adroddiadau, gwaith ymchwil, gweithgareddau addysgol ac argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Gall hefyd gynghori pobl.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolen allanol[golygu]